'Roedd y festri’n fwrlwm o brysurdeb: pobl yn mynd a dod, ‘nol a blaen, mewn a mas: gosod yn y bocs anrhegion i’w dosbarthu ymysg digartref y ddinas (dan nawdd Canolfan Wallich); sythu’r eurgylch; bwyd i’r Banc Bwyd - a lwyddir i gyrraedd nod yr Ail Dunnell heddiw tybed? Paratoi’r brecwast bach; gosod y stondin Masnach Deg; bwydo’r hippo piws (cyfle i blantos, blant a phobl ifanc yr eglwys gyfrannu £1 yr un tuag at anrheg elusennol. Bydd yr union anrheg yn ddibynnol ar gyfanswm y rhoddion!); twtio adenydd; ‘Chi ‘di gweld fy ffon fugail yn rywle?’ Croesawu aelodau ifanc â hwythau wedi dychwelyd adref o brifysgol...ac am 9:30 pawb yn barod, a'r Gweinidog yn ein gwahodd i ymdawelu. Dechrau, fel dylid dechrau gyda chyfnod o weddi: cawsom ein harwain i feddwl, a diolch am rywun arbennig, rhywun "sbesial" mewn cyfnod o weddi dawel.
Drama’r Nadolig ad hoc - dyna’r addewid am weddill yr Oedfa Foreol Gynnar. Ein Gweinidog oedd yn llywio’r cyfan ond wrth iddo adrodd yr "hen, hen hanes" daeth y cyfan yn fwrlwm byw wrth i Mair fach, cawr mawr o Joseff, Gabriel; dau asyn (un bach ac un ychydig yn fwy), un carw, dau Geidwad y Llety - y ddwy fel ei gilydd wedi ymdaflu i'r rôl; Lliaws o Angylion; trwch o fugeiliaid - bach, mawr a mwy; sawl oenig bach, ynghyd â’r Seren, Sêr, Doethion, godi o’r gynulleidfa ac ymuno yn y stori. Wrth i’r Gweinidog rannu cynnwys ei lythyr at Siôn Corn â ni ar ddiwedd yr oedfa cawsom gyfle i gyd-ddyheu am 'damaid bach o Ffydd Mair, ychydig o Amynedd Joseff, talp o Garedigrwydd Ceidwad y Llety, trwch o Lawenydd yr Angylion', ynghyd ag 'Ufudd-dod y Bugeiliaid a Dal-i-fyndrwydd y Doethion.' '...Os gwelwch yn dda, Siôn Corn, a gaf i, i bawb ym Minny Street, o’r ieuengaf i’r hynaf, gynhesrwydd Cariad Crist yn ein calon'.
Yn swyn a sŵn yr Oedfa hyfryd hon, ymlaen i’r Oedfa Foreol. Oedfa dawel oedd hon. Ein man cychwyn oedd cofio am y gofidus a’r galarus yn ein plith, gan symud wedyn at ein torch Adfent. ‘Roedd cannwyll Gobaith a Chariad eisoes ynghyn, a heddiw cyneuwyd cannwyll Llawenydd. Hanfod y llawenydd y sonnir amdano yn y Beibl yw adnabod, caru a gwasanaethu Duw. Dyma lawenydd na all pobl na byd mo’i roi na’i ddwyn oddi arnom. Dyma a’n galluoga i ddweud gyda Nehemeia: Na thristewch; canys llawenydd yr Arglwydd yw eich nerth chwi (8:10).
Wedi gair o weddi, parhau a wnaethom gyda chyfres o fyfyrdodau’r Adfent. Nid cyfres o bregethau fel y cyfryw, ond cyfres o fyfyrdodau byrion, dwy neu dair ym mhob oedfa, a rheini’n seiliedig ar ddarn o gelfyddyd. Y Nos Sul aeth heibio, buom yn ystyried portread o Eseia Broffwyd gan Michelangelo Buonarroti (1475-1564) a The Last Judgement 1912 gan Wassily Kandinsky (1866-1944).
Bore heddiw, wedi darllen Eseia 11: 1-5, aethom i’r afael â Choeden Jesse, 1499 gan Absolon Stumme (m. 1499). Yn un o ddelweddau’r Adfent, neges syml y Goeden Jesse yw mai Iesu yw penllanw canrifoedd o obeithio a dyheu am frenin. Tad Dafydd oedd Jesse ...O’r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o’i wraidd ef... (Eseia 11:1). Iesu yw’r blaguryn a ddaw o’r cyff a adewir i Jesse ac ef. Gwelir cyndeidiau brenhinol Iesu fel ffrwyth ar y goeden. Ar dop y goeden gwelir Mair a’i baban; pennaf ffrwyth Coeden Jesse yw’r bychan hwn. Nid Crist grymus, ond Crist noeth, gwelw a gwan ym mreichiau’i fam. Fe’n hatgoffir gan yr arlunydd fod cyfrinach gwir fawredd i’w ganfod, nid mewn grym a golud bydol, na chwaith amlygrwydd a chlod, ond mewn gwyleidd-dra, gostyngeiddrwydd a pharodrwydd i weini ar eraill.
Darlleniad o Luc 3: 1-20 a’n harweiniodd at y llun nesaf: Ioan Fedyddiwr yn Pregethu, c.1665 gan Mattia Preti (1613-1699). Yng nghornel dde'r llun gwelir angel yn syllu atom ni. Gwaith yr angel yw ein cael i gamu i mewn i’r llun, i fod â rhan ynddo. Geilw'r angel arnom nid i edmygu Ioan o bellter diogel, ond i fod fel Ioan - i fod fel llais yn paratoi, yn anialwch ein byd a’n byw, ffordd yr Arglwydd. Unionwn y llwybrau, gan lenwi pob ceulan, lefelu pob mynydd a gwneud y llwybrau troellog yn union a’r ffyrdd garw yn llyfn, er mwyn i’n pobl weld iachawdwriaeth Duw. Dyma ein gweinidogaeth. I hyn y’n galwyd.
Rhwng y naill lun a’r llall cafwyd cyfnod o fyfyrdod gweddigar. Wedi canu cyfieithiad J. D. Vernon Lewis (1879-1970) o’r emyn Lladin: O! tyred di, Emaniŵel...(CFf.:432) cawsom ein hatgoffa gan y Gweinidog fod yr emyn yn seiliedig ar y saith ‘O!’; gelwir hwy hefyd yn Antiffonau ‘O!’, sef cyfres o saith siant Ladin, bob un yn dechrau â’r deisyfiad ‘O!’. Fe’u cenid mewn gwasanaethau yn ystod yr wythnos yn arwain at y Nadolig. Does neb yn gwybod pwy yw awdur yr antiffonau, ond mae’n drwch o fendith. Eu dyhead huawdl hwy oedd ein gweddi heddiw’r bore. Plethwyd myfyrdod sydyn syml i bob antiffon, a’r myfyrdod yn arwain at gyfnod o weddi dawel. Dyma’r antiffonau i’ch sylw.
O! Sapinetia... O! Ddoethineb, a ddaethost o enau’r Goruchaf Dduw, a lledu dros y byd penbaladr, yn gadarn a thirion dy drefn: Tyrd, a dysg i ni lwybr deall...
O! Adonai... O! Arglwydd, Llywydd Tŷ Israel, a ymddangosaist i Moses yn fflamau tan y berth yn llosgi, a rhoi iddo’r gyfraith a Sinai: Tyrd, a gwared ni â’th fraich estynedig.
O! Radix Jesse... O! Flaguryn Jesse, a sefi fel baner i’r bobloedd, y mae brenhinoedd yn fud ger dy fron, a’r cenhedloedd yn dy geisio: Tyrd a gwared ni, ac nad oeda.
O! Clavis David... O! Allwedd Dafydd, Coronog Tŷ Israel, sy’n agor fel na fedr neb gau, a chau fel na fedr neb agor. Tyrd, ac arwain y caeth yn rhydd.
O! Oriens... O! Lewyrch o’r uchelder, disgleirdeb a gwres y Goleuni Tragwyddol a Haul Cyfiawnder: Tyrd, a gwawria ar y rhai sy’n eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau.
O! Rex Gentium... O! Frenin cenhedloedd, a hwythau’n hiraethu amdanat, y Conglfaen sy’n gwneud dau yn un: Tyrd, a gwared y bobl a lunnir gennyt o lwch y llawr.
O! Emmanuel... O! Emaniwel, ein Brenin. Dymuniad yr holl genhedloedd a’u Gwaredwr: Tyrd ac achub ni, O! Arglwydd ein Duw.
Fel clo i’r cyfnod hwn o ddefosiwn, offrymwyd y weddi hon:
O! Ddoethineb...portha fy meddwl â’th wirionedd.
O! Arglwydd...plyg fy ewyllys i’th bwrpas.
O! Flaguryn Jesse...bywha fi o farwolaeth.
O! Allwedd Dafydd...agor fy nghalon i’th gariad.
O! Lewyrch...pura fy nychymyg â’th brydferthwch.
O! Frenin...eistedd ar orsedd fy nghanol a theyrnasa yno.
O! Emaniwel...dwysbiga fi â’th sancteiddrwydd.
A chynorthwya fi, yn a thrwy’r cyfan i’th foliannu di, fy Nuw a’m Gwaredwr. Amen.
O! Sapinetia...
O! Adonai...
O! Radix Jesse
O! Clavis David...
O! Oriens...
O! Rex Gentium...
O! Emmanuel...
Sylwch: Sapinetia; Adonai, Radix Jesse, Clavis David, Oriens, Rex Gentium, Emmanuel... SARCORE. O ddarllen SARCORE am yn ôl, cawn ERO CRAS: ‘Yfory, mi ddof’. Gweddïwn gyda Alice Evans:
...tyrd o'r newydd i'n calonnau
tyrd i ddangos gwerth dy waed.
(CFf.:445)
Liw nos, tri llun a thair homili: Ioan Fedyddiwr yn yr Anialwch; o’r 15fed Ganrif gan Geertgen tot Sint Jans (1465-1495). Onid oes rywbeth ychydig yn ddigalon am Ioan? Digalonni yw’r demtasiwn barod yn ein plith fel crefyddwyr yn 2015. Ond rhaid peidio digalonni! Wrth ochr yr Ioan digalon, Wele Oen Duw (Ioan 1:29a). Eistedd yr Oen yn dawel, yn gwbl gysurus. Er mor fychan a gwan ydyw, hwn a orfu. Codwn felly ein calonnau. Nid oes disgwyl i Gristnogion digalon allu cyflawni fawr o ddim. Colli hyder yw’r golled drymaf.
Ioan Fedyddiwr yn Pregethu, c.1775 gan Anton Raphael Mengs (1728-1779). Ioan tanllyd, peryglus a bygythiol yw hwn. Ymaflodd Duw ynddo. Ceir gwirioneddau y gellir eu meddiannu; eu deall, eu dadansoddi a’u derbyn. Mae mathau eraill o wirioneddau sydd yn ein meddiannu ni. Gwirionedd felly yw cred yn Nuw. Duw sy’n gafael ynom ni, yn ein hawlio, ein hargyhoeddi a’n cyfareddu. Dyma Ioan y llun hwn! Yr Adfent hwn boed i ni estyn i Dduw’r cyfle i ymaflyd ynom o’r newydd, a ninnau, o’r herwydd, yn cyhoeddi Ei ewyllys i’n hoes a’n cenhedlaeth.
Ffresgo gan Domenico Ghirlandaio (1449-1494): Ioan Fedyddiwr yn Pregethu, 1490. Saif Ioan ar graig yn pregethu a phawb, o’r ieuengaf i’r hynaf yn gwrando’n astud. Yn dawel a disylw daw Iesu ar hyd yn llwybr tuag at Ioan a’i bobl; nid oes neb yn sylwi arno! Neb yn gweld bod gwrthrych y bregeth wedi cyrraedd! ...y mae un yn sefyll yn eich plith, un nad ydych chwi’n ei adnabod (Ioan 1:26) Ni yw’r bobl yn y ffresgo. Gellir bod mor brysur yn addoli a gwasanaethu Iesu, a chyflawni pethau da yn ei enw gan fethu ei adnabod, ag yntau yn sefyll wrth ein hymyl!
Wedi Cyflwyniad Nadolig yr Eglwys bore Sul, bydd y gyfres gyfoethog hon yn parhau bore Sul nesaf (20/12) gyda ‘Breuddwyd Joseff’, 1773 gan Anton Raphael Mengs (1728-1779).
Bydd cyfle, drwy gyfrwng y Casgliad Rhydd, yn oedfaon y Sul i gyfrannu tuag at waith Cyngor yr Ysgolion Sul
Bydd myfyrdodau’r Oedfa Hwyrol 20/12 yn gydiol wrth ‘Cyfarchiad Gabriel’, 2000 gan John Collier (g.1948); ‘Bébé’, 1896 gan Paul Gauguin (1848-1903) a ‘Genedigaeth Crist’, c. 1490 gan Geertgen tot Sint Jans (1465-1495)
Diolch am fendithion y Sul, cwmni’n gilydd yng nghwmni Duw.
Anrhegion i’w dosbarthu ymysg digartref y ddinas (dan nawdd Canolfan Wallich)