Tymor yr Adfent – 2
Coeden Jesse, 1499 gan Absolon Stumme (m. 1499). Almaenwr a brentisiwyd yn Hamburg; yno yn y gadeirlan, uwchben yr Allor Fawr y gwelir y gwaith celf hwn. Yn un o ddelweddau’r Adfent, neges syml y Goeden Jesse yw mai Iesu yw penllanw canrifoedd o obeithio a dyheu am frenin. Tad Dafydd oedd Jesse ...O’r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn, ac fe dyf cangen o’i wraidd ef... (Eseia 11:1). Iesu yw’r blaguryn a ddaw o’r cyff a adewir i Jesse ac ef. Hefyd, yw’r (g)angen a dyf o’i wraidd ef. Yn y llun, ar ei orsedd, mae Duw; yn cysgu, wrth ei draed, mae Jesse. ...bydd ysbryd yr Arglwydd yn gorffwys arno, yn ysbryd doethineb a deall, yn ysbryd cyngor a grym, yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr Arglwydd... (Eseia 11:2). I ysbryd Duw y priodolir cymeriad a gallu’r Brenin. Er mor bwysig Jesse, Duw sydd yn cyflawni ei fwriad. Ar ei orsedd mae Duw; wrth ei draed, yn cysgu, mae Jesse. Gwelir cyndeidiau brenhinol Iesu fel ffrwyth ar y goeden. Ar dop y goeden gwelir Mair a’i baban; pennaf ffrwyth Coeden Jesse yw’r bychan hwn. Nid Crist grymus, ond Crist noeth, gwelw a gwan ym mreichiau’i fam. Mae’r bychan yn gwbl ddibynnol ar ei fam fel yr ydym ninnau yn gwbl ddibynnol ar y bychan. Fe’n hatgoffir gan yr arlunydd fod cyfrinach gwir fawredd i’w ganfod, nid mewn grym a golud bydol, na chwaith amlygrwydd a chlod, ond mewn gwyleidd-dra, gostyngeiddrwydd a pharodrwydd i weini ar eraill. Atgoffa Coeden Jesse Absolon Stumme bod Duw yng Nghrist yn ein cymell i gerdded llwybr gostyngeiddrwydd, i ganfod y nerth sydd mewn gwendid a’r grym sydd mewn gwyleidd-dra. Hawdd anwybyddu hyn; cofiwn, Mab y Dyn, yntau, ni ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu (Marc 10:45). Dangosodd Iesu mai’r unig waredigaeth o afael grym, a’r dinistr a’r gwallgofrwydd a achosir ganddo yw gweithredu grym gwahanol. Grym cariad, tynerwch a maddeuant. Deall amgen oedd deall Iesu o rym: grym i ymatal rhag defnyddio grym i ddinistrio a rheoli er mwyn creu a rhyddhau.
Ioan Fedyddiwr yn Pregethu, c.1665 gan Mattia Preti (1613-1699). Pregeth lem oedd pregeth Ioan yn yr anialwch: Chwi epil gwiberod! Pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y digofaint sydd i ddod? (Luc 3:7) Nid yw pregethwriaeth o ddiddordeb i Ioan! Â ymlaen: mae’r fwyell eisoes wrth wraidd y coed; felly, y mae pob coeden nad yw’r dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a’i bwrw i’r tân. (Luc 3: 9) Trwy gyfrwng ei lun fe’n tynnir gan Preti o’r ymylon diogel i mewn i ganol y llun at Ioan wyllt a pheryglus. Gwelir gwialen a baner. Y wialen yn arwydd o awdurdod Ioan fel proffwyd; ar y faner gwelir y neges Wele Oen Duw. (Ioan 1:29a). Ar waelod y llun, gwelir oen. Cyflwynir y cyff yn fath o bulpud i Ioan, ond hefyd fel allor. Mae ei wisg goch yn llifo dros y cyff, fel gwaed. Aberthir yr oen; daw bywyd a chyfle newydd ac mae Preti yn cyfleu hynny trwy gysylltu Ioan â’r cyff marw. Gyda’r cyff a’r corff yn un, mae braich estynedig Ioan fel cangen ... O’r cyff a adewir... fe ddaw blaguryn... fe dyf cangen o’i wraidd ef... (Eseia 11:1). Yng nghornel dde'r llun gwelir angel yn syllu atom ni. Dyma Air Duw yn dod atom ni (Luc 3: 3). Gwaith yr angel yw ein cael i gamu i mewn i’r llun, i fod â rhan ynddo. Daeth Ioan o’r diffeithwch; myn yr ysgolheigion iddo droi cefn ar grefydda’r Deml, a gwleidyddiaeth y ddinas, o’i wirfodd. O’r diffeithwch daearyddol, daeth Ioan i ganol anialwch crefyddol a gwleidyddol ei gyfnod i bregethu. Mae neges Ioan yn un gyfoes a pherthnasol i 2015. Onid yw ein byd yn anialwch; mae ein pobl ar goll, ein cenedl yn hesb a’n crefydd yn sych. Geilw'r angel arnom i fentro i fod fel llais yn paratoi yn anialwch ein byd a’n byw ffordd yr Arglwydd. Unionwn y llwybrau, gan lenwi pob ceulan, lefelu pob mynydd a gwneud y llwybrau troellog yn union a’r ffyrdd garw yn llyfn, er mwyn i’n pobl weld iachawdwriaeth Duw. Onid dyma ein gweinidogaeth?