Mae'n 8 o'r gloch y bore, â chwmni bychan yn y festri i gyfarfod o’r enw ‘Tiberias’.
'Tiberias'?
Ar ôl hyn, amlygodd Iesu ei hun unwaith eto i’w ddisgyblion, ar lan Môr Tiberias...‘Dewch,’ meddai Iesu wrthynt, cymerwch frecwast.’...a chymerodd y bara a’i roi iddynt, a’r pysgod yr un modd. (Ioan 21:1,12,13)
Na, ni chafwyd na bara na physgod, ond cawsom - y pump ohonom - wledd o fendith foreol: defosiwn, gweddi, llonyddwch a myfyrdod. Gweddi Abraham (Genesis 18:23-33) oedd testun ein sylw. Mor ychydig a wyddai pobl Sodom fod Abraham yn eiriol ar eu rhan! Yn ddiarwybod i ni, cawn ein cynnal gan weddïau eraill; a heb yn wybod iddynt, cynhaliwn eraill â’n gweddïau.
Ystyriwch ryfeddod y peth hwn: Sodom ddrwg; nid oes unrhyw arwydd o edifeirwch ymhlith ei thrigolion, ond mae’r Duw hirymarhous yn barod - na - yn awyddus i wrando eiriolaeth Abraham, ac yn addo iddo y byddai cyn lleied â deg o bobl gyfiawn yn ddigon i arbed y ddinas rhag y chwalfa fawr.
Nid ydym yn llawn sylweddoli ein dyled i bobl dda - y bobl dda sydd yn gyson eiriol trosom. Nid ydym yn llwyr werthfawrogi gwerth ein gweddi, grym ein gweddïo a dylanwad pell a dwfn gyrhaeddol ein gweddïau: pŵer ydyw, grymus ydynt; cyfryngau newid, sianelau bendith: cysur, calondid a chymorth i fyw a bywiocau.
Profiad newydd oedd cwrdd mor gynnar y bore, ond buddiol y cwrdd hwnnw; bu 'Tiberias' yn fendith.