Yn ei gywydd Penmon (1906) sonia T. Gwynn Jones (1871-1949) am ei gyfaill ac yntau’n mynd ar daith i Benmon ryw ddydd Sul, a chan mor ddifyr fu’r daith honno nid oedd modd ei anghofio. Wrth edrych yn ôl ar y diwrnod hwnnw nid oedd ond un peth i’w ddweud amdano: Rhyw Sul uwch na’r Suliau oedd. (Caniadau; Hughes a’i Fab. 1934)
Rhyw Sul uwch na’r Suliau oedd hwn i’n Gweinidog gan fod ei fab, Connor, yn arwain yr Oedfa Gynnar. Connor baratôdd y cyfan oll, er mynych ymgais ei dad i ymyrryd â’r paratoadau rheini! Â’r festri’n gyffyrddus lawn, dechreuodd Connor yn hyderus ddigon, gan gyflwyno thema’r Oedfa: Rhannu a Derbyn, ac yna - gofyn i’w dad i gyflwyno’r emyn agoriadol! Bu’r tad yn ufudd i’r mab.
Wedi’r darllen a’r weddi, aeth Connor ymlaen i adrodd stori am ffermwr - ffermwr da ydoedd, yn dda yn trin y tir, gan sicrhau cynhaeaf da o flwyddyn i flwyddyn; ac yn dda hefyd am rannu’r cynhaeaf honno â’r anghenus. ‘Roedd Connor wedi paratoi cae bychan esgus, ac un o’r plant yn cael cyfle i hau hadau yn y cae hwnnw, ond hadau rhyfedd iawn: ‘Cheerios’. (Erbyn diwedd yr oedfa, ‘roedd yr hadau hyn wedi cnydio’n siocled i’r plant a’r plantos!) Yn sgil hyn oll, aeth Connor ymlaen i ddweud mai pobl ffodus iawn ydym. ‘Mae gennym,’ meddai, ‘ddigon - gormod weithiau - o bob peth sydd angen arnom. Dylem felly, fel y ffermwr da, rhannu.’ Soniodd am bwysigrwydd cefnogi Banc Bwyd Caerdydd, ac estyn cymorth i ffoaduriaid Ewrop a’r Dwyrain Canol. (‘Roedd ein casgliad rhydd yn ystod oedfaon y dydd yn gyfle i gefnogi Apêl Argyfwng Ffoaduriaid Cymorth Cristnogol).
Wedi ein hatgoffa o’r ffermwr yn hau hadau yn y cae, aeth Connor rhagddo i dynnu llun o hedyn yn egino: y gwreiddyn yn bwrw am i lawr, a’r ddeilen yn estyn am i fyny. ‘Roedd hyn, awgrymodd Connor, yn ddarlun ohonom fel pobl Dduw: rhaid estyn lawr, ac estyn lan. Dylem estyn ‘lawr’ am ein gilydd - bod yn ffrindiau da i’n gilydd, gofalu am ein gilydd, gofalu am bobl sydd yn drist ac ofnus; ond rhaid hefyd estyn ‘lan’ at Dduw, estyn am ei gymorth a chariad. Wrth estyn lan, ac estyn lawr, byddwn fel egin gwyrdd y llun, yn tyfu’n gryf a chadarn.
Mawr ein diolch i Connor am oedfa dda, drefnus a llawn bendith. Wedi’r brecwast bach a’i sgwrs, prysurdeb y stondin Masnach Deg a’r ‘cwrdd â her ein hail dunnell erbyn y Nadolig’ i Fanc Bwyd Caerdydd, daeth 10:30, a’i gyfle newydd i addoli, gan ddechrau yn sŵn Salm 148:7-13a a’r weddi syml, dreiddgar: F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf.
‘Roedd ein Gweinidog yn cychwyn heddiw ar gyfres newydd o bregethau yn edrych ar Efengyl Marc, a hynny o bersbectif y flwyddyn 70, pan gwympodd Jerwsalem a dinistriwyd y Deml gan fyddinoedd Rhufain. Trodd y Gweinidog at Marc 11:15-17: Daethant i Jerwsalem...dechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a’r rhai oedd yn prynu yn y Deml...dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, ‘Onid yw’r ysgrifenedig: Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd, ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron?’ Dyfynna Iesu Eseia a Jeremeia; y ddau broffwyd yn gweinidogaethu mewn cyfnodau pan fu’r Deml yn Jerwsalem o dan fygythiad yr Asyriaid a’r Babiloniaid.
...rhof iddynt lawenydd yn fy nhŷ gweddi, a derbyn eu hoffrwm a’u haberth ar fy allor; oherwydd gelwi fy nhŷ yn dŷ gweddi i’r holl bobloedd (Eseia 56:7). Nodweddir y rhan hon o Broffwydoliaeth Eseia gan ysbryd agored a chroesawgar; sonnir am yr estron yn cael eu croesawu, ond cyn chwalfa fawr y flwyddyn 70, sefydliad caeedig oedd y Deml. Cyfyngwyd ar bwy oedd yn cael mynd i ble yn y Deml. Defnyddiwyd crefydd i wahanu pobl, i ddilorni’r estron, a chan fod hynny’n gwbl groes i fwriad Duw, dinistriwyd y Deml.
Yn nyddiau Eseia arbedwyd y Deml ddwywaith, yn wyrthiol, rhag ymosodiad gelynion. Tyfodd cred ymhlith yr Iddewon na ellid dinistrio Teml Dduw...ond yng nghyfnod Jeremeia chwalwyd y Deml ac alltudiwyd y bobl gan y Babiloniaid - nid yw parchu lle yn warant o waredigaeth! Dyna arwyddocâd yr ail ddyfyniad o broffwydoliaeth Jeremeia: Ai lloches lladron yn eich golwg yw’r tŷ hwn, a gelwir fy enw i arno?... (Jeremeia 7:11) Dyfynna Iesu'r ddau broffwyd i herio tueddiad Iddewiaeth ei gyfnod i fod yn gaeedig, ac i gymryd amddiffyn a bendith Duw yn ganiataol.
Mynnai’r Gweinidog fod angen i bob eglwys leol fod yn agored fel mae Duw yn agored; yn groesawgar fel mae Duw yn groesawgar; yn gariadlawn fel mae Duw yn gariadlawn. Heb fod ynom gariad, croesawgar agored, nid oes i ni warant o fendith a llwyddiant.
Liw nos, dechrau cyfres newydd arall o bregethau: Ffydd a’i Phobl. Hanfod y gyfres hon yw’r cwestiwn ‘Beth yw ffydd?’ Yn yr unfed bennod ar ddeg o’r Llythyr at yr Hebreaid, mae’r awdur yn mynd i’r afael â’r cwestiwn hwnnw. Sonnir ganddo am un ar bymtheg o bobl ffydd. Mae bywyd yr un a’r bymtheg hyn, bob un gyda’i gilydd yn ateb y cwestiwn: Beth yw ffydd? Bwriad y Gweinidog yw mynd â ni drwyddynt, fesul dau neu dri. Y tri oedd gennym dan sylw heno oedd Abel, Enoch a Noa. Bu newid sylweddol ar drefn yr oedfa, wrth i’r Gweinidog gyfuno gweddi, ac emyn â neges pob un o’r tri cymeriad.
Daw Abel a’i offrwm i’r allor i gydnabod haelioni di-ben-draw Duw. Fe’n hatgoffir gan Abel mae byw’n ddiolchgar yw ffydd.
Boed fy mywyd oll yn ddiolch,
Dim ond diolch yw fy lle...
(William Williams, 1717-91. CFf.713)
Bernir fod Enoch yn eithriad yn ei oes, yn un o’r ychydig bobl dda mewn cenhedlaeth gyffredinol ddrwg. Pan oedd y lliaws yn cefnu ar Dduw, mynnai ef a’i debyg rodio gyda Duw. Rhodiodd Enoch gyda Duw meddai awdur Genesis (5:24). Amlyga bywyd Enoch mai ffydd yw meithrin y profiad o bresenoldeb Duw.
Yn wastad gyda thi
dymunwn fod, fy Nuw,
yn rhodio gyda thi ‘mhob man
ac yn dy gwmni’n byw.
(J. D. Burns. 1823-64 cyf. Elfed, 1860-1953; CFf: 672)
Dengys Noa mai gwres parchedig ofn yw ffydd, ac yn y gwres hwnnw, parodrwydd i weithio a chydweithio er gogoniant i’r hwn sydd Gariad.
Paid ag ofni’r anawsterau,
paid ag ofni’r brwydrau chwaith;
paid ag ofni’r canlyniadau:
cred yn Nuw a gwna dy waith...
(Norman Macleod, 1812-72; cyf. Ben Davies, 1864-1937)
Cafwyd Sul llawn- llawn llawenydd, llawn bendith.
Edrychwn ymlaen at Ŵyl Flynyddol Eglwys Minny Street (20 Medi), a honno’n gyfle i ni gyd, fel Eglwys, ailgydio yn ein gweithgarwch am y flwyddyn waith i ddod. I’r Oedfa Hwyrol, cawn groesawu cyfeillion o eglwysi Cymraeg eraill y ddinas i ymuno â ni. Pregethir gan y Parchedig Dyfrig Lloyd (Eglwys Dewi Sant).