Ffydd a’i Phobl (1) (Hebreaid 11) – Abel, Enoch a Noa
Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Cain... (Hebreaid 11:4). Gorffen hanes Cain ac Abel gyda Cain yn lladd ei frawd. Er yn alltudion o baradwys, mae Duw yn realiti iddynt, ac mae’r allor a’r offrwm yn bwysig yn eu bywydau. Try'r weithred o addoli yn achlysur i ladd. Pam y derbyniwyd aberth Abel a gwrthodwyd un Cain? Digiodd Cain yn ddirfawr, a bu’n wynep-drist (Genesis 4:5). Dychmyger, rhoi anrheg i rywun, sy’n gwrtais ddigon, yn ei wrthod. Gellid naill ai ymateb trwy ofyn ‘Pam?’ Pam na dderbynnir yr anrheg? A wnaethpwyd rhywbeth o’i le? Ceisio deall, ac wedi deall, ceisio cyd-ddealltwriaeth a chymod. Neu, gellir digio! Amlyga’r ymateb gyntaf mai’r person arall oedd wir yn bwysig. Mae gwylltio yn amlygu’r gwrthwyneb. Rho Cain i Dduw, rhoddwr pob peth, dim ond er mwyn cael derbyn. Wrth gyflwyno ei offrwm meddwl a wna Cain am ba wobr a bendithion a ddaw yn sgil addoli Duw. Gwrthodir aberth Cain. Daw Abel a’i offrwm i’r allor i gydnabod haelioni di-ben-draw Duw. Daw i ddiolch i Dduw, heb hawlio na disgwyl dim. Derbynnir yr aberth. Beth yw ffydd? Act o ddiolch; byw’n ddiolchgar, oherwydd er gwaethaf ein methiant, ein diffygion a’n ffolineb, mae Duw yn ein caru.
Boed fy mywyd oll yn ddiolch...
(William Williams, 1717-91; C.Ff. 713)
Trwy ffydd y cymerwyd Enoch ymaith fel na welai farwolaeth; ac ni chafwyd mohono, am fod Duw wedi ei gymryd...Oherwydd rhaid i’r sawl sy’n dod at Dduw gredu ei fod ef, a’i fod yn gwobrwyo’r rhai sy’n ei geisio. (Hebreaid 11: 5-6) Enoch; un o’r ychydig bobl dda mewn cenhedlaeth gyffredinol ddrwg. Â’r lliaws yn cefnu ar Dduw, mynnodd Enoch rodio gyda Duw (Genesis 5:24). Beth a olyga hyn? Mae Duw yn anweledig; datguddia a mynega ei hun trwy gyfryngau gweladwy, ond anweledig ydyw. Gwelai Enoch yr anweledig. Gwelai Duw ar waith, yn cynnal a chadw; yn Enoch gwelodd eraill Dduw. Gwadu bodolaeth Duw a wna rhai; ceir eraill sy’n derbyn Ei fodolaeth ond yn methu derbyn Ei bresenoldeb. Myn eraill mai damcaniaeth yw Duw; yn bodoli, tebyg iawn, ond heb erioed ei brofi fel ffaith yn dylanwadu’n ymarferol ar eu byw a’u bod. Beth yw ffydd? Sylweddoli presenoldeb yr Anweledig. I Enoch, ‘roedd bodolaeth a phresenoldeb Duw yn real ac yn dylanwadu ar ei fywyd. Nid credu ym modolaeth Duw yw ffydd; yn hytrach, meithrin y profiad o bresenoldeb Duw, dyfnhau a datblygu perthynas â’r Duw sy’n llond pob lle, presennol ymhob man (David Jones, 1805-68; C.Ff. 76) Fe’n hamgylchynir bob dydd gan bresenoldeb Duw ac mae ei gariad yn ein cynnal. Ffydd yw ymddiried yn realiti cariad cynhaliol Duw, ceisio bob dydd y cariad sydd beunydd yn ein ceisio.
Yn wastad gyda thi dymunwn fod, fy Nuw,
yn rhodio gyda thi ‘mhob man ac yn dy gwmni’n byw.
(J. D. Burns, 1823-64 cyf. Elfed, 1860-1953; C.Ff: 672)
Trwy ffydd, Noa, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ... (Hebreaid 11: 7). Mae ffydd yn rhywbeth amgenach na chydsyniad goddefol a ffurfiol â gwirionedd yr Efengyl. Mae’n deffro ‘parchedig ofn’ sy’n cynhyrfu gobaith, yn bywhau cariad ac yn gosod ffydd ar waith. Onid marw ffydd heb weithredoedd (Iago 2:17)? Gellir dweud yr un fath am ffydd heb deimlad. Perthynas o gariad â Duw yw ffydd. Beth yw ffydd? Y sylweddoliad mai ofer cyhoeddi ‘Cariad yw Duw’ os na all bobl deimlo gwres y cariad hwnnw ynom, trwom, rhyngom ac amdanom. ‘Roedd ffydd Noa hefyd yn dangos ei hun mewn gwaith. Nid trwy wyrth yr adeiladwyd yr arch, ond trwy lafur caled. Gwaith anodd yw dal ati gyda gwaith nad oes nemor neb yn ei werthfawrogi; i Noa, ‘roedd pethau yn anos fyth gan fod pobl yn ei watwar. Bu Noa, er hynny, wrthi’n ddygn, er waethaf bod dirmyg a gwawd, yn cael y gwaith i ben. Mae ffydd yn magu gwres parodrwydd ynom, fel unigolion ac fel eglwys, i weithio a chydweithio, wrth gynnal ynom barodrwydd i ddal ati i gydweithio a gweithio.
Paid ag ofni’r anawsterau, paid ag ofni’r brwydrau chwaith;
paid ag ofni’r canlyniadau: cred yn Nuw a gwna dy waith.
(Norman Macleod, 1812-72; cyf. Ben Davies, 1864-1937. C.Ff. 735)
Beth yw ffydd?
Fe’n hatgoffir gan Abel mae byw’n ddiolchgar yw ffydd.
Amlyga bywyd Enoch mai ffydd yw meithrin y profiad o bresenoldeb Duw.
Dengys Noa mai gwres perthynas o gariad yw ffydd, ac yng ngwres y cariad hwnnw, parodrwydd i weithio a chydweithio er gogoniant i’r hwn sydd Gariad.
(OLlE)