Y Flwyddyn 70 ac Efengyl Marc (1) (Marc 11: 15-19)
Efengyl Marc a ysgrifennwyd gyntaf, tua’r flwyddyn 70; dyma gyfnod cwymp Jerwsalem a dinistr y Deml. Bu i’r Iddewon wrthryfela yn erbyn yr Ymerodraeth Rufeinig; ‘roedd Duw o’u plaid ac onid oedd buddugoliaeth yn sicr? Profwyd methiant. Cafwyd siom a cholledion enfawr, a dial enbyd. Dinistriwyd y Deml. Cwestiwn mawr cyfnod ysgrifennu Efengyl Marc oedd ‘Pam?’ Pam ddigwyddodd hyn? Pam y fath golled a difrod? Ai cosb gan Dduw oedd cwymp y Deml a dinistr Jerwsalem? Rhaid oedd cynnig atebion. Ysgrifennwyd Efengyl Marc gan Gristion o Iddew i gynulleidfa o Iddewon Cristnogol. Iesu oedd hanfod eu gobaith a gwrthrych eu ffydd; Ei gariad oedd cysur ac esiampl eu byw. Er hynny, ‘roedd Jerwsalem yn dal yn gyrchfan iddynt ac echel eu ffydd oedd y Deml, ac ’roedd gweld Jerwsalem yn adfail, a’r Deml yn sarn yn dor-calon ac yn ofid enaid. Ysgrifennwyd Efengyl Marc i gynnig ateb i Iddewon Cristnogol y cyfnod.
Pwy oedd pwy? Pobl defod, arfer a seremoni oedd y Sadwceaid. Bu iddynt benderfynu cydweithio â’r Ymerodraeth Rufeinig; ufudd oeddent ... a dof. Pobl defod, arfer a seremoni oedd y Phariseaid hefyd, ond gyda dinistr y Deml pa ddiben rhain. Un peth oedd yn weddill: y Torah - Cyfraith Duw. Hanfod gweinidogaeth y Phariseaid oedd cadw gorchmynion y Gyfraith. ‘Roedd yr Eseniaid wedi troi eu cefnau ar y Deml. Sefydlwyd cymunedau crefyddol ganddynt yn yr anialwch ond dinistriwyd y rhain gan fyddin yr Ymerodraeth Rufeinig. Gobaith y Selotiaid oedd dymchwel yr Ymerodraeth Rufeinig, a gweld pobl Israel yn rhydd unwaith eto. Bu iddynt lwyddo i gael y bobl i droi yn erbyn Rhufain, ond methiant fu eu gwrthryfel. Yn raddol, trodd y bobl oddi wrthynt. Yr Iddewon Cristnogol: credent hwy mai Iesu oedd y Meseia. ‘Roedd defodau, arferion a seremonïau’r Deml, fel cadw’r Gyfraith, yn bwysig, ond nid yn allweddol. ‘Roedd Iesu yn fwy na’r cyfan; Ef oedd y Gyfraith mewn cnawd. Dim ond dau o’r pum grŵp lwyddodd i oroesi cwymp Jerwsalem: y Phariseaid a’r Iddewon Cristnogol. Cynigiai’r ddau grŵp ateb gwahanol iawn i’r cwestiwn: ‘Pam ddigwyddodd hyn i ni?’ Mynnai’r Phariseaid mai canlyniad esgeulustod y bobl o ofynion Cyfraith Duw oedd cwymp Jerwsalem, a dinistr y Deml. Rhaid, felly, oedd ail-dderbyn, o’r newydd, y Gyfraith honno, ac i fod o ddifri, yn ufudd iddi. Mynnai’r Iddewon Cristnogol mai canlyniad esgeulustod y bobl o neges Cyfraith Duw mewn cnawd - Iesu Grist - oedd dinistr y Deml a chwymp Jerwsalem. Rhaid oedd cael y bobl i dderbyn neges Iesu: neges o gariad i bawb yn ddiwahân.
Daethant i Jerwsalem...dechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a’r rhai oedd yn prynu yn y Deml ... dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, ‘Onid yw’r ysgrifenedig: Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i’r holl genhedloedd, ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron?’ (Marc 11: 15-17) Tueddwn i ddehongli’r hanes hwn yn nhermau'r hyn a wyddom am y sefydliad crefyddol Iddewig yng nghyfnod Iesu. Dyfynna Iesu Efengyl Marc Eseia a Jeremeia; y ddau broffwyd yn gweinidogaethu mewn cyfnodau pan fu’r Deml yn Jerwsalem o dan fygythiad yr Asyriaid a’r Babiloniaid. ...rhof iddynt lawenydd yn fy nhŷ gweddi, a derbyn eu hoffrwm a’u haberth ar fy allor; oherwydd gelwi fy nhŷ yn dŷ gweddi i’r holl bobloedd. (Eseia 56:7) Nodweddir y rhan hon o Broffwydoliaeth Eseia gan ysbryd agored a chroesawgar; sonnir am yr estron yn cael eu croesawu. Cyn cwymp Jerwsalem, defnyddiwyd crefydd i wahanu pobl ac i ddilorni’r estron. Gan fod hyn yn groes i fwriad Duw, dinistriwyd y Deml. Ai lloches lladron yn eich golwg yw’r tŷ hwn, a gelwir fy enw i arno?... (Jeremeia 7: 11) Dyma’r cyfnod yr ymosododd y Babiloniaid ar Jerwsalem; chwalwyd y Deml ac alltudiwyd y bobl. Tyfodd cred ymhlith yr Iddewon na ellid dinistrio Teml Dduw...nid yw parchu lle yn warant o waredigaeth! Dyfynna Iesu y ddau broffwyd i herio tueddiad Iddewiaeth i fod yn gaeedig, ac i gymryd amddiffyn a bendith Duw yn ganiataol.
Heddiw, mae’r Deml yng Nghymru’n sarn; bu i’r hen ffordd o grefydda ddarfod. Rhaid ceisio deall beth ddigwyddodd a darganfod ffordd ymlaen. Ceir, yn Efengyl Marc, ateb i’n hargyfwng. Dinistriwyd yr hen Deml am iddi ddatblygu i fod yn le caeedig, ac am iddi wrthod Cyfraith Cariad. Nid yw cael rhagor o bobl debyg i ni i fynychu addoliad yn ein capel ni yn ddigon o weinidogaeth! Gall y fath weinidogaeth ein lladd, oni sylweddolir fod gwir addoli’r Duw sy’n gariad a chroeso yn galw am gariad a chroeso yn ein ffordd o fyw bob dydd. Heb hynny, try’r eglwys leol yn ymguddfa yn hytrach nag yn ymgyrchfan i bobl Dduw. Bodloni ar lai na Duw yw un o beryglon parod crefydda ym mhob oes. Bodloni ar fod yn llai na fwriadwyd iddi fod yw un o beryglon parod yr eglwys leol ym mhob oes. Tŷ agored yw hwn i fod; yn agored fel mae Duw yn agored, yn groesawgar fel mae Duw yn groesawgar ac yn gariadlawn fel mae Duw yn gariadlawn. Heb fod yma gariad, croesawgar agored, nid oes i ni warant o fendith a llwyddiant.
(OLlE)