Dyma awgrym o ddarlleniad a gweddi i Sul Cyfiawnder Hiliol, 13 Medi 2015
Oherwydd yr ARGLWYDD eich Duw yw Duw y duwiau ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn ac ofnadwy; nid yw'n dangos ffafriaeth nac yn cymryd llwgrwobr. Y mae'n gwneud cyfiawnder â’r amddifad a'r weddw, ac yn caru'r dieithryn, a rhoi iddo fwyd a dillad. Yr ydych chithau i garu'r dieithryn, gan ichwi fod yn ddieithriaid yng ngwlad yr Aifft.
(Deuteronomium 10:17-19)
Duw a Thad yr holl bobl,
yn dy gariad
creaist holl genhedloedd y byd
i fod yn deulu,
a dysgodd dy Fab ni i garu ein gilydd.
Eto, mae ein byd wedi’i rwygo
gan ragfarn, ymffrost a balchder.
Cynorthwya’r gwahanol genhedloedd
i garu a deall ei gilydd yn well.
Dwysâ ynom gydymdeimlad,
goddefgarwch ac ewyllys da,
fel y gallwn ddysgu i werthfawrogi’r rhoddion
y mae cenhedloedd eraill yn eu rhoi i ni,
ac i weld yn yr holl bobl
ein brodyr a’n chwiorydd y bu Crist farw trostyn nhw.
Arbed ni rhag cenfigen, casineb ac ofn,
a helpa ni i fyw gyda’n gilydd
fel aelodau o un teulu gartref yn y byd,
meibion a merched o un Tad
sy’n byw yn rhyddid plant Duw
drwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Amen