...daethant i Genesaret ac angori wrth y lan. (Marc 6:53b)
Paned a sgwrs yn y Terra Nova, Parc Llyn y Rhath
Cliciwch, neu cyffyrddwch â’r ddelwedd i amlygu'r nesaf.
Paned a...geometreg. Cacen? Ie, ond geometreg?!
Daeth cwmni da ynghyd i siop goffi Terra Nova am baned, sgwrs a...geometreg. Wel, geometreg o fath! Triongl ar ben sgwâr!
Cynrychiolir Duw gan y triongl a phobl gan y sgwâr.
Felly, gweddïwch chwi fel hyn (Mathew 6:9) yw cyfarwyddyd Iesu, a deisyf tri pheth ar Dduw, ein Tad nefol:
Sancteiddier dy enw.
Deled dy deyrnas.
Gwneler dy ewyllys.
Ac yna cyffesu pedwar angen pobl ac ymbil arno i ymateb iddynt:
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol.
Maddau i ni ein dyledion.
Nac arwain ni i brofedigaeth.
Gwared ni rhag drwg.
Triongl ar ben sgwâr; cawn ein hatgoffa o siâp tŷ, awgrymodd y Gweinidog: rhaid cael to – y triongl – i warchod y tŷ, ond y pedwar wal – y sgwâr – sydd yn cynnal y triongl.
Awgrymodd un o’r cwmni fod y llun yn ei atgoffa o amlen. Gosodir negeseuon mewn amlen, meddai, a’i hanfon. Onid rywbeth tebyg yw gweddi? A dyma fu’n sbardun i’r drafodaeth, a thra buddiol bu honno:
Mae ymdawelu yn hanfodol i weddi: agor ein bywydau i bresenoldeb Duw, ceisio ei ewyllys ef, a disgwyl oddi wrtho. I lwybrau Duw y rhed ein llwybrau ni.
Rhaid wrth gyrddau gweddi; trwy ein gweddi undebol canolir gweddïau’r bobl i un cyfeiriad ac un pwrpas.
Ni ellir cyfyngu gweddi i weithred ffurfiol neu ddefod arbennig ar adeg arbennig mewn man arbennig a thybio bod iddo ddechrau a diwedd. Mae gweddi – ymwybyddiaeth o bresenoldeb Duw – yn llifo trwom, rhyngom, amdanom, bob dydd, trwy’r dydd.
Os ydym i fod yn gyfryngau tosturi i eraill, rhaid gweddïo drostynt yn dosturiol.
Un o’r anawsterau mwyaf wrth weddïo yw disgyblu meddyliau adeiniog.
Er mor bwysig yw neilltuo amserau penodol i fod gyda Duw, dylem hefyd droi ato o ganol prysurdeb ein byw a’n bod.
Di-fudd fudd unrhyw drafodaeth ar weddi oni bydd y drafodaeth honno’n esgor ar arfer gweddi.
Diolch am gwmni’n gilydd, am sgwrs a thrafodaeth. Daeth Genesaret â bodd a bendith.