Cliciwch, neu cyffyrddwch â’r ddelwedd i amlygu'r nesaf.
Gwelir hoodies a chrysau-T Hollister ym mhob man. Mae pob lliw a llun o bobl yn falch o wisgo Hollister. Abercrombie & Fitch sydd yn gyfrifol am Hollister. Lansiwyd y brand yn 2000, ac o ganlyniad i farchnata dygn a chlyfar, llwyddiant byd-eang yw Hollister bellach.
Mae hoodies Hollister yn lled debyg i hoodies Matalan, er enghraifft; ond mae ‘na wahaniaeth pris sylweddol iawn rhwng y naill a’r llall. Mae’r enw Hollister yn golygu rhywbeth i bobl, rhywbeth gwerth talu’n ddrud amdano: stori. Cynigir gan Hollister naratif i fyw wrtho, stori i’w berchenogi.
Dyma’r stori’n fras: ganed John M. Hollister diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gwariodd hafau hir melyn ei lencyndod yn Maine, UDA. Bachgen llawn asbri ydoedd, anturus, a thra golygus. Graddiodd o brifysgol Yale yn 1915, ond trodd ei gefn ar yrfa ddiogel gan fentro’n hytrach i deithio’r byd. Wedi cyrraedd pendraw’r byd, cyfarfu â Meta, a syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad - priodi, a dychwelyd i Los Angeles, ac agor siop yn Laguna Beach, California yn 1922. Maes o law, ganed mab i John a Meta, JohnHollister Jr. Pan ddaeth y mab i oed, cafodd gyfle i redeg y siop. ‘Roedd John Jr. yn syrffiwr tan gamp, ac yn chwip o ddyn busnes; gwelodd gyfle i werthu nwyddau syrffio, a dillad o ansawdd arbennig iawn yn siop. Daeth llwyddiant sylweddol. O’r siop fechan honno y tyfodd a datblygodd y brand byd-enwog Hollister - HCo. (New Yorker, 20/7/2015)
Dyna’r stori; ffuglen - nid oes iddi ronyn o wirionedd. Crëwyd y fictional backstory hon gan Abercrombie & Fitch i gynnal a gwerthu’r brand newydd. (Gwnaethant yr un peth, gyda llaw, wrth lansio’r brand Gilly Hicks.) Crëwyd yr enw Hollister gan ddewiniaid hysbysebu Abercrombie & Fitch, a chyd-ddigwyddiad pur oedd bod yna dref ger San Francisco, o’r enw...Hollister.
Yn y Los Angeles Times cyhoeddwyd stori - a honno’n stori wir - am y drafferth a gododd rhwng Abercrombie & Fitch fawr, a pherchennog siop fechan yn nhre Hollister. http://t.co/TIWzMp4z3C Dechreuodd honno werthu jîns vintage o dan yr enw Rag City Blues: Hollister. ‘Roedd Abercrombie & Fitch yn anfodlon iawn, gan maen nhw oedd piau’r enw Hollister. Lletchwith hyn, ac mewn ymdrech i oresgyn y lletchwithdod gwahoddwyd Abercrombie & Fitch, gan arweinwyr tref Hollister, i agor siop Hollister yn Hollister. Gwrthodwyd y cynnig. Nid addas, efallai, oedd agor siop Hollister mewn tref fechan ddi-sôn-amdani fel Hollister.
Er na fu tref Hollister yn deilwng o gael siop Hollister, mae’r dref honno’n real, a phobl real yn byw ynddi, a rheini’n cynnal cymuned, a chael eu cadw ganddi - nid fictional backstory mo tref Hollister.
Beth a wnelo hyn â ni? Mae’r fictional backstory yn apelio. Buasai’n braf cael creu i’n hunain, stori am yr hunan yr hoffem fod; stori i werthu’r hunan delfrydol hwnnw i eraill. Mae’r apêl yn amlwg, ac amlwg hefyd yw’r tueddiad i wneud hynny! Mae nifer fawr ohonom yn byw i gynnal ein fictional backstory. Myn y ffydd Gristnogol fod Duw yn ein caru fel ag yr ydym. Bod yn Gristion yw hepgor ein fictional backstory, a chydnabod beth ydym: pechadur; ie; ond pechadur a gerir yn angerddol gan Dduw.
Beth a wnelo hyn â’r eglwys leol? Mae pobl yn falch o wisgo Hollister. Mae pobl capel, hefyd yn falch o wisgo enw; enw sydd iddynt yn werthfawr: ‘Ebeneser’; ‘Salem’, ‘Tabernacl’, ‘Horeb’, ‘Minny Street’ ac er mor naturiol, felly'r tueddiad i sôn am ‘bobl Salem’ neu ‘bobl Seion’, rhaid cofio cofio hyn: pa enw bynnag sydd i’n capel ni, eglwys Iesu Grist ydym. Ildio’n barhaus i fod yn ‘bobl Iesu Grist’ yw’r unig lwyddiant i ymgyrraedd ato: Gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu Grist (Rhufeiniaid 13:14; WM).
(OLlE)