Yr hyn a gollwyd gennym yw'r ymdeimlad fod crefydd yn greadigol, yn rhyddhau pobl, yn eu gwneud yn llawen, yn eu cynorthwyo i dyfu a datblygu. Ymddengys Cristnogaeth fel crefydd wedi blino, wedi treulio o gwmpas yr ymylon, yn siarad mewn hen iaith flinedig, yn ymatal rhag meddyliau a syniadau newydd, mentrus; a mwy niweidiol na dim, fel pe nad oes a wnelo hi ddim â’r hyn sy'n real ym mywydau pobl.
Gwared ni rhag ceisio diogelwch ffydd a gwrthod ei menter. Amen
(OLlE)