Ddoe, gyda machlud haul, heddiw ac yfory (Medi 13-15), dethlir Blwyddyn Newydd yr Iddew: Rosh Hashanah. Os ‘Munud i Feddwl’ yw hon, ‘Egwyl i Feddwl’ yw Rosh Hashana. Hanfod yr Ŵyl yw pwyllo – yng nghanol prysurdeb bywyd – pwyllo gan ystyried diben a chyfeiriad ein byw...cyfrir bendithion, nodir gwendidau, ystyrir y drwg a’r da a wnaethpwyd a nas gwnaethpwyd. Erfynnir, a derbynnir maddeuant gan Dduw a chymydog. Fel hyn mae Rabi Jonathan Sacks (gan. 1948) yn cyfleu hanfod yr Ŵyl: It’s a bit like the two files I keep on my desk. One is very large, and marked ‘urgent’. The other is thin and a bit neglected. It’s marked ‘important’. Rosh Hashanah is when we ignore the urgent and concentrate on the important: life as the most precious gift of God. (From Optimism to Hope, Continuum, 2004).
Prin fod angen ychwanegu dim at y geiriau rheini, ar wahân i nodyn syml i danlinellu eu pwysigrwydd. Mor hawdd y collir bywyd wrth fyw – colli’r darlun wrth geisio diogelu’r ffrâm, colli’r cnewyllyn yn ein gofal am y plisgyn, colli’r hyn ydym o iawn yng nghanol yr hyn oll a ddisgwylir i ni fod. Wrth geisio ganolbwyntio ar y pethau ‘pwysig’ mawr, anghofir y pethau ‘hanfodol’ sydd mor aml, yng nghudd yn neunydd y beunydd bach.
Iddewon a’i peidio, mae neges Rosh Hashanah yn gwbl allweddol i bob perchen ffydd: mae’n rhaid ar adegau ystyried beth sydd yn llywio a lliwio’n bywyd: Chwilia fi, O Dduw, iti adnabod fy nghalon; profa fi, iti ddeall fy meddyliau. Edrych a wyf ar ffordd a fydd yn loes i mi, ac arwain fi yn y ffordd dragwyddol (Salm 139: 23 a 24).
I orffen, dyma gerdd gan y bardd Israeliaidd Zelda Schneersohn Miskovsky (1914-1984) - adwaenir hi’n syml fel Zelda - a’r gerdd yn arwain at stori fach fawr (dyfynnir y naill ar llall gan Jonathan Magonet (g.1942) yn y gyfrol From Autumn to Summer, SCM, 2000)
Each person has a name
given him by God
and given him by his father and mother.
Each person has a name
given him by his height and his way of smiling
and given him by his garment.
Each person has name
given him by the stars
and given him by his neighbours.
Each person has a name
given him by his sins
and given him by his longing.
Each person has a name
given by those who hate him
and given him by his love.
Each person has a name
given him by his festivals
and given him by his work.
Each person has a name
give him by the seasons of the year
and given him by his blindness.
Each person has a name
Given him by the sea
and given him
by his death.
Ac yna’r stori: stori am y Rabi Meshulam Zusha (1718-1800); ‘roedd Zusha’n marw, ac meddai: ‘Â minnau wyneb yn wyneb â Duw, pe bai’r Bod Mawr yn gofyn i mi: “Zusha, Zusha, pam na fuost fel Moses?” Byddaf yn medru ateb yn hawdd ddigon: Nid Moses mohonof, f’Arglwydd Dduw. Ond, pe bai Duw yn gofyn: “Zusha, Zusha, pam na fuost yn Zusha?” Pa ateb bydd gennyf iddo?’
Ambell dro yn unig mewn bywyd y byddwn fyw...
Byr a brau yw bywyd dyn, ac o’r herwydd cwbl allweddol yw oedi ar brydiau - pwyllo a challio – i ystyried hanfod ein byw, gwaelod a gwraidd bywyd: pwy ydym, ac os ydym yr hyn y bwriadwyd i ni fod. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Ystyriwch eich cyflwr...’ (Haggai 1:5); Os oes gan rywun glustiau i wrando, gwrandawed (Marc 4:23) meddai Iesu.
(OLlE)