Bore Sul am 10:30 (YS; capel a ‘Z’)
Boed bendith ar weinidogaeth y Parchedig Hywel Davies, Aberdâr yn ein plith.
Nos Sul am 18:00 ein braint fydd cael ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys y Tabernacl, Yr Ais.
Your Custom Text Here
Bore Sul am 10:30 (YS; capel a ‘Z’)
Boed bendith ar weinidogaeth y Parchedig Hywel Davies, Aberdâr yn ein plith.
Nos Sul am 18:00 ein braint fydd cael ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys y Tabernacl, Yr Ais.
Bore Sul am 10:30. Cynhelir YS.
Ymaflyd mewn Gobaith
Jeremeia 29:11
Nid er waethaf y Newyddion drwg, ond yn union o’i herwydd, ymaflyd mewn gobaith sydd rhaid, a chaniatáu i’r gobaith da hwnnw gydio ynom, a’n hebrwng ymlaen i wasanaeth a gweinidogaeth.
Ein Hoedfa Hwyrol am 18:00 (capel/Z)
Nid digon ufudd-dod
Genesis 6:9
Mewn oes ysgeler anghyfiawnderau, mae angen mwy nag ufudd-dod. Nid aros am ganiatâd, am arweiniad gan Dduw mo’n gwaith. Gwyddom beth yw bwriad ein Duw; rhaid wrth fenter a dewrder i ddod a'r darnau eto ynghyd.
Bore Sul am 9:30 (capel a ‘Z’) yr Oedfa Gynnar.
Dewch/ymunwch â chroeso.
Cawn gyfle, o’r ieuengaf i’r hynaf, i ystyried arwyddocâd y geiriau isod gan weddïo mewn gobaith iddynt gael bod yn fwy na dim ond geiriau mewn byd o ryfel a rhyfela.
Nos Sul am 18:00
Datguddiad 6:2 a 19:11
Y pedwar march a’i marchogion; gwyn, fflamgoch, du a gwelwlwyd.
Sonia Ioan am farch gwyn arall: ‘… wele geffyl gwyn; enw ei farchog oedd Ffyddlon a Gwir ...’ (19:11)
Dyma ein cymorth cadarn.
Y mae Crist ar ei farch gwyn yn ein galw ato.
Bore Sul (10:30; capel; cynhelir Ysgol Sul): Bywyd cenedl yn ‘aberth byw, sanctaidd a derbyniol gan Dduw’ (Rhufeiniaid 12:1).
Boed bendith.
Nos Sul (18:00; capel a ‘Z’) Oedfa Gymundeb.
Galar, gofid, rhyfel a thrais … a oes i ni gysur a chymorth i fyw yng ngeiriau Martha: ‘A hyd yn oed yn awr …’ (Ioan 11:22)?
Dewch/ymunwch â chroeso.
Boed bendith.
Dydd Sul, ein braint yw derbyn o genadwri y Parchedig Denzil John; 10:30 (capel a Z) a gyda’r hwyr am 18:00.
Boed bendith ar y Sul.
Bore Sul am 10:30 ein Hoedfa Foreol (capel a 'Z').
Cynhelir Ysgol Sul.
Cadw cysylltiad â'r Nadolig: Ann Griffiths.
Dewch/ymunwch â chroeso.
Nos Sul am 18:00 ein Hoedfa Hwyrol.
Cawn gyfle i ystyried gweinidogaeth yr 'yn lle'.
'Bydd ffynidwydd yn tyfu yn lle drain,
a myrtwydd yn lle mieri ...'
(Eseia 55:13a)
Boed bendith.
Bore Sul am 9:30, ein Hoedfa Foreol Gynnar!
Dewch â chroeso.
‘Revels’ yn amlygu ‘beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist’. (Effesiaid 3:18).
Dyma’r ‘Revelation’ sydd wrth wraidd ein cenhadaeth. ‘Revelval’ sydd angen arnom.
Nos Sul am 18:00, ein Hoedfa Hwyrol (capel a ‘Z’).
Dewch/ymunwch â chroeso.
FFYDD IESU: Ffydd mewn Tad; Ffydd mewn Gweddi; Ffydd mewn Pobl; Ffydd mewn Cariad.
Dyro i ni ffydd oedd apêl y disgyblion - ein hapêl ninnau yw Dyro i ni Arglwydd, dy ffydd.
Hebreaid 12:2/Luc 17:5&6
Bore Sul am 10:30, dewch/ymunwch â chroeso: ein Hoedfa Gymun. Cynhelir Ysgol Sul.
Brysia; Noddfa; clwyfau duon.
Nos Sul am 18:00; ein Hoedfa Hwyrol.
Eira yn Salmon?
... fel yr wyt?
Boed bendith.