OEDFAON Y SUL

Bore Sul am 10:30. Cynhelir YS.

Ymaflyd mewn Gobaith

Jeremeia 29:11

Nid er waethaf y Newyddion drwg, ond yn union o’i herwydd, ymaflyd mewn gobaith sydd rhaid, a chaniatáu i’r gobaith da hwnnw gydio ynom, a’n hebrwng ymlaen i wasanaeth a gweinidogaeth.

Ein Hoedfa Hwyrol am 18:00 (capel/Z)

Nid digon ufudd-dod

Genesis 6:9

Mewn oes ysgeler anghyfiawnderau, mae angen mwy nag ufudd-dod. Nid aros am ganiatâd, am arweiniad gan Dduw mo’n gwaith. Gwyddom beth yw bwriad ein Duw; rhaid wrth fenter a dewrder i ddod a'r darnau eto ynghyd.