Boed bendith Duw ar Oedfaon y Sul.
Am 10:30 (Capel a 'Z')’ Mr Ion Thomas.
Cynhelir Ysgol Sul.
Am 18:00, y Parchedig John Roberts, BBC.
Diolch rhag blaen i'r ddau am ei gwasanaeth a'i gweinidogaeth yn ein plith.
Your Custom Text Here
Boed bendith Duw ar Oedfaon y Sul.
Am 10:30 (Capel a 'Z')’ Mr Ion Thomas.
Cynhelir Ysgol Sul.
Am 18:00, y Parchedig John Roberts, BBC.
Diolch rhag blaen i'r ddau am ei gwasanaeth a'i gweinidogaeth yn ein plith.
Boed bendith Duw ar Oedfaon y Sul.
Am 10:30 (Capel a 'Z') y Parchedig Dyfrig Rees.
Cynhelir Ysgol Sul.
Am 18:00, y Fon. Sian Meinir.
Diolch rhag blaen i'r ddau am ei gwasanaeth a'i gweinidogaeth yn ein plith.
Ein Hoedfa Foreol 10:30 (Capel a ‘Z’).
Cynhelir Ysgol Sul.
Echel myfyrdod Owain Llŷr fydd:
‘R’ addewid roed i Adda,
yr Alffa a’r Omega
ar lin Mair, a’r lin Mair …’
(Eos Iâl)
Dewch/ymunwch â chroeso.
Ein Hoedfa Hwyrol 18:00.
Ŵyn a buchod? Na; ni’n iawn.
Teirw a thurturod? Na. Eto, ni’n iawn.
Dewch â chroeso.
Oedfa Gynnar bore Sul.
9:30 (capel a ‘Z’).
Cawn glywed neges y ‘Jelly Babies’ a’r hen ddarn chwe cheiniog.
Ein Hoedfa Hwyrol am 18:00.
Bywiol ddŵr Eseia …
Gwir Feseia Daniel …
Bachgen doeth Eseia …
‘Mewn côr ym Meth’len Jiwda
ar lin Mair’.
Dewch â chroeso; boed bendith.
Ar gyfer bore Sul (10:30; capel a ‘Z’):
‘Ar gyfer heddiw’r bore …’ Eos Iâl, (1794-1862).
Gwreiddyn Jesse?
Y Cadarn ddaeth o Bosra?
Ar gyfer ein Hoedfa Gymundeb nos Sul (18:00):
Y Deddfwr gynt ar Seina?
Yr Iawn gaed ar Galfaria?
Dewch/ymunwch â chroeso.
Boed bendith.
Bore Sul am 10:30: Myfyr Hefin vs Owain Llŷr; 1 Corinthiaid 13; Technoleg; ‘chydig bach o Bach; darn o waith Gauguin. Micha fydd â’r gair olaf.
Diolch i bawb a fu ynglŷn â threfnu’r Oedfa hon.
Dewch â chroeso. Boed bendith.
Nos Sul am 18:00 (capel a ‘Z’).
Ein braint fydd cael derbyn o genadwri y Parchedig Passer Domesticus. Dewch/ymunwch â chroeso.
Bore Sul y 12fed am 9:30
Cyflwynir y ddrama byrfyfyr ‘Ceidwad y Llety’ gan bawb o bobl dda Minny Street, o’r ieuengaf i’r hynaf. Bydd angen Mair a Joseff, Bugeiliaid, Doethion ac Angylion. Bydd darn i bawb a phawb a’i ddarn. Darperir y sgript rhag blaen i chi gael ymarfer eich llinellau. Hyd yn oes os na ellid gwarantu actio o’r safon orau, bydd wenau Duw ar ein hwyl a chwerthin. Dewch â chroeso i ddathlu’r Nadolig.
Nos Sul y 12fed; 18:00 (capel a ‘Z’)
Dathliad Nadolig yr aelodau a chyfeillion hŷn:
‘Ymdawela, O! fyd …’; ‘Yn ôl ac ymlaen …’ a ‘Cyfarchiad Gabriel’.
Diolch i bawb fydd â rhan yn yr Oedfa.
Boed bendith.
Bore ‘fory am 10:30, Oedfa Gymundeb yr Adfent (YS; Z)
Eseia 9:2-7 a 11:1-9
Amser i feddwl yw’r Adfent.
Amser i feddwl am gyfrinach y Gair yn y gwellt fel plentyn bach.
Dewch â chroeso, o’r ieuengaf i’r hynaf.
Boed bendith.
Nos ‘fory am 18:00 Joseff fab Dafydd a chyngor y Frenhines Wen i Alice i ymarfer credu o leiaf chwech o bethau cwbl amhosibl cyn brecwast pob bore.
Gellid darllen Mathew 1:1-25 rhag blaen.
Boed wenau Duw ar yr Oedfa.