Bore Sul y 12fed am 9:30
Cyflwynir y ddrama byrfyfyr ‘Ceidwad y Llety’ gan bawb o bobl dda Minny Street, o’r ieuengaf i’r hynaf. Bydd angen Mair a Joseff, Bugeiliaid, Doethion ac Angylion. Bydd darn i bawb a phawb a’i ddarn. Darperir y sgript rhag blaen i chi gael ymarfer eich llinellau. Hyd yn oes os na ellid gwarantu actio o’r safon orau, bydd wenau Duw ar ein hwyl a chwerthin. Dewch â chroeso i ddathlu’r Nadolig.
Nos Sul y 12fed; 18:00 (capel a ‘Z’)
Dathliad Nadolig yr aelodau a chyfeillion hŷn:
‘Ymdawela, O! fyd …’; ‘Yn ôl ac ymlaen …’ a ‘Cyfarchiad Gabriel’.
Diolch i bawb fydd â rhan yn yr Oedfa.
Boed bendith.