Cyfeillion, pa les yw i ddyn ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all ei ffydd ei achub ef? (Iago 2:14)
Faint o offer sydd yn y llun isod?
Your Custom Text Here
Cyfeillion, pa les yw i ddyn ddweud fod ganddo ffydd, ac yntau heb weithredoedd? A all ei ffydd ei achub ef? (Iago 2:14)
Faint o offer sydd yn y llun isod?
Mae’n loes calon gennym orfod nodi ein bod yn hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street am y tro. Mae’r penderfyniad hwn yn unol â chyfarwyddyd y llywodraeth a chanllawiau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a byddwn yn ei weithredu yn syth. Bydd hyn yn chwithig iawn inni fel cynulleidfa Minny Street ond gwneir trefniadau i’n galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog.
Eithr ffrwyth yr Ysbryd yw, cariad, llawenydd, tangnefedd, hirymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest:. Yn erbyn y cyfryw nid oes ddeddf. (Galatiaid 5:22-23)
Philipiaid 3: 1-11 - Y Gwir Gyfiawnder
Llawenydd yw cyweirnod y llythyr hwn. Dyma’r tant a chlywir ym mhob pennod, a bydd Paul yn dychwelyd ato yn 4:4. Mae nifer o ysgolheigion yn argyhoeddedig mae’r adnod hon yw terfyn y llythyr gwreiddiol, gan mai dyna awgrym y gair ‘Bellach’, a bod hynny’n briodol ar ôl cyflwyno Timotheus ac Epaffroditus. Dyna hefyd, sy'n cyfrif efallai, am y newid cywair sydyn a ddaw ar ôl yr adnod hon.
Gwyliwch y cŵn. Defnyddia Paul iaith gref ryfeddol. Edrychwch ar y cŵn, meddai Paul wrth Gristnogion Philipi, cadwch eich llygaid arnynt. Peryglus ydynt. Daw bai'r cŵn i’r amlwg wrth ddarllen ymlaen: maent yn gorfodi’r gyfraith ac enwaediad ar bobl Crist, ac felly difethant y rhyddid sydd yng Nghrist. Fe dry Paul bopeth wyneb i waered. Fe dry enwaediad yn ddienwaediad, a dienwaediad yn enwaediad. Daliai Paul fod enwaediad fel y derbynnid ef gan y Cristnogion Iddewig yn gofyn am gyflawni’r ddeddf yn llawn. (Galatiaid 5:3). Mae Paul fel petai yn siarad trwy Gristnogion Philipi, er mwyn i’r Cristnogion Iddewig yma cael clywed. Siarad fel rabi Iddewig y mae yn hytrach nag apostol yn y fan hon oherwydd yn nhermau’r efengyl, Nid enwaediad syn cyfrif, na diwenwaediad, ond creadigaeth newydd (Galatiaid 6:15). Trwy’r cwbl, prif amcan Paul yw tanlinellu i Gristnogion Philipi a’r Cristnogion Iddewig sydd yn pwyso arnynt, fod enwaediad o ddim budd i’r sawl a gymero Crist yw galon, a bod Crist o ddim budd i’r Cristion a gymero enwaedu arno.
Gyda’r gair ond, mae Paul fel petai yn tawelu ar ddechrau’r seithfed adnod. Cyhoedda’n hy fod pob ennill yn dalp o golled - ‘sbwriel (8) - pan welodd ogoniant Crist. Daw yw hyn a ddigwydd ar ffordd Damascus i feddwl yn syth a naturiol, ond efallai mai cyfeirio mae Paul fan hyn nid at y profiad hwnnw’n uniongyrchol, ond at ei agwedd meddwl oherwydd y profiad hwnnw. Buom yn sôn am Lawenydd fel cyweirnod y llythyr hwn, cyweirnod bywyd Paul yw ... y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd (8). Nid meddiant personol yw’r Efengyl meddai Paul, yn yr act o dderbyn Crist rhaid rhannu Crist ag arall. Anadl-einioes bodolaeth yr eglwys o’r dechrau yw bod yn rhaid rhannu'r Gwir Gyfiawnder faint bynnag y rhwystrau yn y ffordd, faint bynnag y terfysg a achosai.
Adnodau i'ch sylw:
Eseia 53:11
Ioan 17:3
Rhufeiniaid 2:29; 7:6
Galatiaid 2:16
Colosiaid 2:11
I ysgogi trafodaeth: ·
Yng nghyd-destun adnodau 7, 8 & 9, trafodwch eiriau Arthur Hallam wrth sgrifennu at ei gyfaill Tennyson: I find that Christ seems to fit into every fold of my being.
Mae’n loes calon gennym orfod nodi ein bod yn hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street am y tro. Mae’r penderfyniad hwn yn unol â chyfarwyddyd y llywodraeth a chanllawiau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a byddwn yn ei weithredu yn syth. Bydd hyn yn chwithig iawn inni fel cynulleidfa Minny Street ond gwneir trefniadau i’n galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog.
Wedi darllen yr 8fed Salm, chwilwch am yr ‘8’ yn y ddelwedd isod!
Arglwydd ein Ior ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd. O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd. Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist. Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef? Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch. Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef: Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd; Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd. Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
Mae’n loes calon gennym orfod nodi ein bod yn hepgor pob oedfa a chyfarfod yng nghapel Minny Street am y tro. Mae’r penderfyniad hwn yn unol â chyfarwyddyd y llywodraeth a chanllawiau Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a byddwn yn ei weithredu yn syth. Bydd hyn yn chwithig iawn inni fel cynulleidfa Minny Street ond gwneir trefniadau i’n galluogi, am 10:30 bob bore Sul, i “gyd-addoli” yn ein cartrefi drwy gyfrwng taflenni a baratowyd gan ein Gweinidog.
Joseff? Y saer, Joseff? Wel, ydw' siŵr iawn, adnabod Joseff ers blynyddoedd. Dyn da - a chrefftwr heb ei ail. Un o deulu da; yn ôl pob sôn, gall olrhain hanes ei deulu ‘n ôl i Dafydd Frenin. Un tawel yw Joseff cofiwch, ond pan mae Joseff yn siarad, mae pawb yn gwrando. Ond, dw i’n cadw chi. Ewch lawr fan hyn, a throi i’r chwith, ac wedyn, yn sydyn i’r dde. Mae gweithdy Joseff ar gornel waelod y ffordd honno. Os bydd Joseff allan yn gweithio’n rywle, bydd y meibion yno mae’n siŵr. Iago; ac Iesu, yr hynaf, a mae hwnnw'r un ffunud a’i fam! Sori? Angylion? Digon nawr. Taw piau hi syr! Mab Joseff yw Iesu, yn union fel Iago a’r merched, peidiwch â choelio’r si a’r sôn, na chodi bwganod. Hen hanes yw hynny, a heb fod yn fusnes i mi, na chi. Deall? Gobeithio nad oes brys arnoch. Mae Joseff lan i’w glustiau! Mae’r Rhufeiniad yn brysur - brysur yn lladd. Mae Joseff newydd dderbyn gwaith ganddynt - trawstiau i’w croesau; dim ond y Rhufeiniad allai ddangos y fath ddyfeisgarwch wrth ladd dyn! Ydi, mae Joseff yn brysur y dyddiau hyn; nawr dw i wedi cadw chi - a chi wedi cadw fi’n rhy hir - felly i ffwrdd a ni’n dau! Ewch lawr fan hyn, a throi i’r chwith, ac wedyn, yn sydyn i’r dde. Shalom!
Diolchais iddo, ac o ddilyn ei gyfarwyddiadau, mi ddois i weithdy Joseff. Roedd y drysau yng nghau, ond y lle’n amlwg brysur. Roeddwn ar fin agor un o’r drysau mawr, pan glywais lais, Joseff mae’n rhaid, yn siarad ag un o’i fechgyn, methais a gweld pa un. “Nawr, clyw fachgen, dwi ddim yn hoffi’r gwaith yma, dim mwy na ti, ond mae rhaid i ni fyw, rhaid cael cig i’r crochan! Gwna dy waith! Mae cael y pren yn llyfn o leiaf yn esmwytho ychydig ar y boen y truan fydd yn hongian arno!” Oedodd am ychydig, ac yna mi glywais ef yn siarad eto, ei lais y tro hwn yn drymach. “‘Dwi wedi dweud a dweud, dwyt ti ddim i siarad fel yna! Bydd siarad fel yna yn cael ti i drwbl! Arswyd fachgen, efallai byddi di yn hongian ar un o rain ryw ddydd! Ac i ti’n gwybod cymaint mae dy fam yn poeni amdanat!”
Ni fu ymateb; mi gerddais ymlaen, gan benderfynu galw eto maes o law. Gallai archebu fy nghadair newydd aros awr neu ddwy.
Ond, roedd hynny blynyddoedd yn ôl bellach. Mi ges i’r gadair. Gwaith y mab ydoedd, Iesu; a chadair esmwyth, soled yw hi hefyd!
Mae Joseff yn ei fedd. Ddoe, bûm yn sefyll ar Galfaria, a gweld hunllefau’r hen saer wedi eu gwireddu bob un.
‘Gweithdy Joseff’; 1959. Jean Charlot.