JOSEFF? Y SAER JOSEFF?

Joseff? Y saer, Joseff? Wel, ydw' siŵr iawn, adnabod Joseff ers blynyddoedd. Dyn da - a chrefftwr heb ei ail. Un o deulu da; yn ôl pob sôn, gall olrhain hanes ei deulu ‘n ôl i Dafydd Frenin. Un tawel yw Joseff cofiwch, ond pan mae Joseff yn siarad, mae pawb yn gwrando. Ond, dw i’n cadw chi. Ewch lawr fan hyn, a throi i’r chwith, ac wedyn, yn sydyn i’r dde. Mae gweithdy Joseff ar gornel waelod y ffordd honno. Os bydd Joseff allan yn gweithio’n rywle, bydd y meibion yno mae’n siŵr. Iago; ac Iesu, yr hynaf, a mae hwnnw'r un ffunud a’i fam! Sori? Angylion? Digon nawr. Taw piau hi syr! Mab Joseff yw Iesu, yn union fel Iago a’r merched, peidiwch â choelio’r si a’r sôn, na chodi bwganod. Hen hanes yw hynny, a heb fod yn fusnes i mi, na chi. Deall? Gobeithio nad oes brys arnoch. Mae Joseff lan i’w glustiau! Mae’r Rhufeiniad yn brysur - brysur yn lladd. Mae Joseff newydd dderbyn gwaith ganddynt - trawstiau i’w croesau; dim ond y Rhufeiniad allai ddangos y fath ddyfeisgarwch wrth ladd dyn! Ydi, mae Joseff yn brysur y dyddiau hyn; nawr dw i wedi cadw chi - a chi wedi cadw fi’n rhy hir - felly i ffwrdd a ni’n dau! Ewch lawr fan hyn, a throi i’r chwith, ac wedyn, yn sydyn i’r dde. Shalom!

Diolchais iddo, ac o ddilyn ei gyfarwyddiadau, mi ddois i weithdy Joseff. Roedd y drysau yng nghau, ond y lle’n amlwg brysur. Roeddwn ar fin agor un o’r drysau mawr, pan glywais lais, Joseff mae’n rhaid, yn siarad ag un o’i fechgyn, methais a gweld pa un. “Nawr, clyw fachgen, dwi ddim yn hoffi’r gwaith yma, dim mwy na ti, ond mae rhaid i ni fyw, rhaid cael cig i’r crochan! Gwna dy waith! Mae cael y pren yn llyfn o leiaf yn esmwytho ychydig ar y boen y truan fydd yn hongian arno!” Oedodd am ychydig, ac yna mi glywais ef yn siarad eto, ei lais y tro hwn yn drymach. “‘Dwi wedi dweud a dweud, dwyt ti ddim i siarad fel yna! Bydd siarad fel yna yn cael ti i drwbl!  Arswyd fachgen, efallai byddi di yn hongian ar un o rain ryw ddydd! Ac i ti’n gwybod cymaint mae dy fam yn poeni amdanat!”

Ni fu ymateb; mi gerddais ymlaen, gan benderfynu galw eto maes o law. Gallai archebu fy nghadair newydd aros awr neu ddwy.

Ond, roedd hynny blynyddoedd yn ôl bellach. Mi ges i’r gadair. Gwaith y mab ydoedd, Iesu; a chadair esmwyth, soled yw hi hefyd!

Mae Joseff yn ei fedd. Ddoe, bûm yn sefyll ar Galfaria, a gweld hunllefau’r hen saer wedi eu gwireddu bob un.

‘Gweithdy Joseff’; 1959. Jean Charlot.