Philipiaid 3: 1-11 - Y Gwir Gyfiawnder
Llawenydd yw cyweirnod y llythyr hwn. Dyma’r tant a chlywir ym mhob pennod, a bydd Paul yn dychwelyd ato yn 4:4. Mae nifer o ysgolheigion yn argyhoeddedig mae’r adnod hon yw terfyn y llythyr gwreiddiol, gan mai dyna awgrym y gair ‘Bellach’, a bod hynny’n briodol ar ôl cyflwyno Timotheus ac Epaffroditus. Dyna hefyd, sy'n cyfrif efallai, am y newid cywair sydyn a ddaw ar ôl yr adnod hon.
Gwyliwch y cŵn. Defnyddia Paul iaith gref ryfeddol. Edrychwch ar y cŵn, meddai Paul wrth Gristnogion Philipi, cadwch eich llygaid arnynt. Peryglus ydynt. Daw bai'r cŵn i’r amlwg wrth ddarllen ymlaen: maent yn gorfodi’r gyfraith ac enwaediad ar bobl Crist, ac felly difethant y rhyddid sydd yng Nghrist. Fe dry Paul bopeth wyneb i waered. Fe dry enwaediad yn ddienwaediad, a dienwaediad yn enwaediad. Daliai Paul fod enwaediad fel y derbynnid ef gan y Cristnogion Iddewig yn gofyn am gyflawni’r ddeddf yn llawn. (Galatiaid 5:3). Mae Paul fel petai yn siarad trwy Gristnogion Philipi, er mwyn i’r Cristnogion Iddewig yma cael clywed. Siarad fel rabi Iddewig y mae yn hytrach nag apostol yn y fan hon oherwydd yn nhermau’r efengyl, Nid enwaediad syn cyfrif, na diwenwaediad, ond creadigaeth newydd (Galatiaid 6:15). Trwy’r cwbl, prif amcan Paul yw tanlinellu i Gristnogion Philipi a’r Cristnogion Iddewig sydd yn pwyso arnynt, fod enwaediad o ddim budd i’r sawl a gymero Crist yw galon, a bod Crist o ddim budd i’r Cristion a gymero enwaedu arno.
Gyda’r gair ond, mae Paul fel petai yn tawelu ar ddechrau’r seithfed adnod. Cyhoedda’n hy fod pob ennill yn dalp o golled - ‘sbwriel (8) - pan welodd ogoniant Crist. Daw yw hyn a ddigwydd ar ffordd Damascus i feddwl yn syth a naturiol, ond efallai mai cyfeirio mae Paul fan hyn nid at y profiad hwnnw’n uniongyrchol, ond at ei agwedd meddwl oherwydd y profiad hwnnw. Buom yn sôn am Lawenydd fel cyweirnod y llythyr hwn, cyweirnod bywyd Paul yw ... y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd (8). Nid meddiant personol yw’r Efengyl meddai Paul, yn yr act o dderbyn Crist rhaid rhannu Crist ag arall. Anadl-einioes bodolaeth yr eglwys o’r dechrau yw bod yn rhaid rhannu'r Gwir Gyfiawnder faint bynnag y rhwystrau yn y ffordd, faint bynnag y terfysg a achosai.
Adnodau i'ch sylw:
Eseia 53:11
Ioan 17:3
Rhufeiniaid 2:29; 7:6
Galatiaid 2:16
Colosiaid 2:11
I ysgogi trafodaeth: ·
Yng nghyd-destun adnodau 7, 8 & 9, trafodwch eiriau Arthur Hallam wrth sgrifennu at ei gyfaill Tennyson: I find that Christ seems to fit into every fold of my being.