MICHAL
2 Samuel 6: 16-23
‘Roedd Michal, merch ieuengaf Saul, wedi syrthio mewn cariad â’i arwr ifanc, Dafydd. Gwelodd Saul ei gyfle. Os oedd Dafydd am briodi Michal, ‘roedd angen rhodd briodas - cant o flaengrwyn! Syniad a bwriad Saul oedd peri i Dafydd farw ar faes y gad. Llwyddodd Dafydd a phriododd Michal. ‘Roedd pawb wedi dotio arno. ‘Roedd cenfigen Saul yn prysur droi’n gasineb.
Un noson danfonodd Saul filwyr i amgylchynu tŷ Dafydd a Michal. Rhybuddiodd Michal ei gŵr, a thwyllo’i thad a’i filwyr gan roi amser i Dafydd ddianc. ‘Roedd Saul byth a hefyd yn ceisio’i rwydo a’i ladd. O dipyn i beth penderfynodd Saul dorri’r briodas: "Yr oedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, a fu’n wraig i Ddafydd, i Palti fab Lais" (1 Samuel 25: 44). Yn wleidyddol, ‘roedd y peth yn gwneud synnwyr. Yn gweld ei deyrnas yn gwywo, symudodd Saul fôr a mynydd i sicrhau’r orsedd i’w fab Jonathan.
Ond bu farw Saul a Jonathan ar faes y gad; hawliodd Dafydd yr orsedd wag. Erbyn hyn ‘roedd Michal yn byw yn ddiogel a dedwydd gyda Palti yn Nheyrnas y Gogledd. Yma, ’roedd Ishbosheth, mab Saul yn teyrnasu. Mynnodd Dafydd gael Michal yn ôl a’i chymryd oddi wrth Palti. "Dilynodd ei gŵr yn wylofus ar ei hol ..." (2 Samuel 3:16). Mae’r geiriau hyn yn mynegi’n gryno poen a gofid y gwahanu. Naturiol, felly, yw’r chwerwedd sydd mor amlwg yn y darlleniad uchod. Mae awdur Llyfrau Samuel, wrth ddisgrifio berw a chyffro esgyniad Dafydd i’r orsedd, yn ein hannog i gofio fod cariad a bywyd pobl fel Michal a Palti wedi syrthio i fagl gwleidyddiaeth grym y cyfnod.
Yng nghyd-destun profiad Michal a Dafydd, trafodwch arwyddocâd y ddihareb: Ni ellir hau drain a disgwyl medi grawnwin.