Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd, ARWAIN FI AR HYD LLWYBR UNION.
(Salm 27:11a)
Taith yw’r Grawys. Mae Jerwsalem o’r diwedd, yn agos. Wedi gorfod dilyn hen lwybr araf, hir ac anodd, erbyn heddiw mae'r ffordd yn haws ei cherdded.
Mor hawddgar yw dy bebyll di, O ARGLWYDD y lluoedd! Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd; fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y Duw byw (84:1&2).
Diolch i’r Salmydd am y geiriau, ac am y cyfarwyddyd. Pererin o Iddew ydyw yn y salm hon, ar ei ffordd i un o’r gwyliau crefyddol yn Jerwsalem, ac yn dod, o’r hir ddiwedd, i olwg y deml, a’r olygfa’n peri iddo lonni drwyddo!
Ydi, mae’r ffordd yn haws erbyn hyn, ond ar y ffordd hawdd, syth, y demtasiwn o hyd yw rhuthro a charlamu; mynnu mae symud yn gyflym yw’r alwad, cyrraedd yn yr amser byrraf posib!
Ar daith y Grawys, mae’n werth cymryd pwyll bob amser. Mae’n bwysig i ni ymbwyllo, er byrred y daith ac er sythed y ffordd bellach. Nid ar frys y ceir gorau’r Grawys.
Bu’r daith yn hir, ond pwyll ac amynedd piau hi.
Beth am gynnau cannwyll gweddi, a gofyn am gymorth Duw i ymdawelu, i ymbwyllo, i ymlonyddu ac i ymagor i rin llonyddwch mawr ein Duw? Nid ar frys y ceir gorau Duw.