Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb am 20:30.
Pa adnod/adnodau NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?
Your Custom Text Here
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb am 20:30.
Pa adnod/adnodau NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
NAOMI
Ruth 1: 2-5, 20-22 a 4:13-17
Mewn ychydig adnodau mae Naomi’n cael ei stripio o bopeth sydd yn annwyl ganddi: ei gwreiddiau ym Methlehem Jwda, ei gŵr Elimelech, a’i meibion Mahlon a Chilion. Yn ei galar mae’n penderfynu mynd yn ôl i’w chynefin at ei theulu a’i phobl. Nid oedd diben bellach aros yn Moab. Daeth y ddwy ferch-yng-nghyfraith, Orpa a Ruth, i’w dilyn.
Yn yr ychydig eiriau cyntaf (Ruth 1:8), dymuniad Naomi yw danfon Orpa a Ruth i ffwrdd ... ar iddynt fynd a gadael llonydd iddi yn ei gofid a’i galar. Merched-yng-nghyfraith - maent yn ei hatgoffa o’r gŵr a’r meibion a gollwyd ganddi. Bron y gellid dweud fod y ddwy fel halen yn y briw. Y tro nesaf mae Naomi’n siarad, ar ôl i Orpa a Ruth ddangos eu cariad a’u consyrn amdani a throsti, daw Naomi’n fam o’r newydd, yn pryderu am les a dyfodol y ddwy. Nid merched-yng-nghyfraith ydynt mwyach ond merched.
Trodd Orpa yn ôl tua Moab at ei phobl. Mae Ruth yn mynnu aros. Wedi cyrraedd Bethlehem, cafodd Naomi groeso cynnes gan ei chymdogion. Fel ateb i’w cwestiynau meddai, "Peidiwch â’m galw’n Naomi (Hyfrydwch), galwch fi’n Fara (Chwerwedd); oherwydd bu’r Hollalluog yn chwerw iawn wrthyf. Yr oeddwn yn llawn wrth fynd allan, ond daeth yr Arglwydd a mi’n ôl yn wag" (Ruth 1: 20-21).
Sylwch yn ofalus ar y geiriau olaf. Mae’r frawddeg yn dechrau gyda Naomi, "Yr oeddwn ...", ond yn gorffen gyda’r Arglwydd yn ei harwain adref. Mae’r boen mor real ag erioed, mae ganddi gant a mil o gwestiynau heb eu hateb ond mae’n gwybod at bwy i daflu’r cwestiynau; mae’n gwybod ar bwy i sgrechian ei phoen a’i dolur - y Duw hwn a’i harweiniodd adref. Wedi cyrraedd Bethlehem, mae taith arall ond yn megis dechrau i Naomi, y daith o Chwerwedd yn ôl i Hyfrydwch.
Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw.
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw.
Edrychwn ymlaen at Sul llawn ac amrywiol ei fendithion gan ddechrau gydag Oedfa i’r Teulu am 10:30. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa. Liw nos, yn yr Oedfa Hwyrol bydd ein Gweinidog yn parhau â’r gyfres o bregethau yn seiliedig ar Wynfydau Efengyl Mathew. Gan aros gyda’r pwyslais fod trefn y Gwynfydau yn ogystal â’u cynnwys yn bwysig bydd y bregeth hon yn echelu ar y syniad mai cwpled ysbrydol yw gwynfydau 6 a 7 (Mathew 5:8,9). Sut ellid cyfuno purdeb calon a thangnefedd? Cawn yr ateb gan Iago! Wrth y bwrdd cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Eto, bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa.
Nos Lun (5/2; 19:00-20:30) PIMS.
Nos Fawrth (6/2; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda NAOMI (Ruth 1: 2-5, 20-22 a 4:13-17). Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Salm 78:26
Mae’r gweddill yn cyfeirio at y rhif pedwar: pedair ochr, pedair congl a phedwar gwynt.
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb am 20:30.
Pa adnod/adnodau NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Dyfrig Rees (Pen-y-bont ar Ogwr). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul, a bydd ein plant a phlantos yn dechrau ymdrin â llwybr Iesu i’r groes a’r Pasg. Parhawn i barchu gorchymyn Iesu, Portha fy ŵyn, a’n llafur yn ddiarbed i hyfforddi ein plant a phobl ifanc. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Nos Lun (29/1; 19:30): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (30/1; 19:30 yn y Festri): "O Lwyn yr Eos, iLovesthediff, Mapio’r Gaerdydd Danddaearol" yng nghwmni Dr Dylan Foster Evans
Babimini bore Gwener (2/2; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.