Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw.
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw.
Edrychwn ymlaen at Sul llawn ac amrywiol ei fendithion gan ddechrau gydag Oedfa i’r Teulu am 10:30. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa. Liw nos, yn yr Oedfa Hwyrol bydd ein Gweinidog yn parhau â’r gyfres o bregethau yn seiliedig ar Wynfydau Efengyl Mathew. Gan aros gyda’r pwyslais fod trefn y Gwynfydau yn ogystal â’u cynnwys yn bwysig bydd y bregeth hon yn echelu ar y syniad mai cwpled ysbrydol yw gwynfydau 6 a 7 (Mathew 5:8,9). Sut ellid cyfuno purdeb calon a thangnefedd? Cawn yr ateb gan Iago! Wrth y bwrdd cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Eto, bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi’r Oedfa.
Nos Lun (5/2; 19:00-20:30) PIMS.
Nos Fawrth (6/2; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda NAOMI (Ruth 1: 2-5, 20-22 a 4:13-17). Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.