NAOMI
Ruth 1: 2-5, 20-22 a 4:13-17
Mewn ychydig adnodau mae Naomi’n cael ei stripio o bopeth sydd yn annwyl ganddi: ei gwreiddiau ym Methlehem Jwda, ei gŵr Elimelech, a’i meibion Mahlon a Chilion. Yn ei galar mae’n penderfynu mynd yn ôl i’w chynefin at ei theulu a’i phobl. Nid oedd diben bellach aros yn Moab. Daeth y ddwy ferch-yng-nghyfraith, Orpa a Ruth, i’w dilyn.
Yn yr ychydig eiriau cyntaf (Ruth 1:8), dymuniad Naomi yw danfon Orpa a Ruth i ffwrdd ... ar iddynt fynd a gadael llonydd iddi yn ei gofid a’i galar. Merched-yng-nghyfraith - maent yn ei hatgoffa o’r gŵr a’r meibion a gollwyd ganddi. Bron y gellid dweud fod y ddwy fel halen yn y briw. Y tro nesaf mae Naomi’n siarad, ar ôl i Orpa a Ruth ddangos eu cariad a’u consyrn amdani a throsti, daw Naomi’n fam o’r newydd, yn pryderu am les a dyfodol y ddwy. Nid merched-yng-nghyfraith ydynt mwyach ond merched.
Trodd Orpa yn ôl tua Moab at ei phobl. Mae Ruth yn mynnu aros. Wedi cyrraedd Bethlehem, cafodd Naomi groeso cynnes gan ei chymdogion. Fel ateb i’w cwestiynau meddai, "Peidiwch â’m galw’n Naomi (Hyfrydwch), galwch fi’n Fara (Chwerwedd); oherwydd bu’r Hollalluog yn chwerw iawn wrthyf. Yr oeddwn yn llawn wrth fynd allan, ond daeth yr Arglwydd a mi’n ôl yn wag" (Ruth 1: 20-21).
Sylwch yn ofalus ar y geiriau olaf. Mae’r frawddeg yn dechrau gyda Naomi, "Yr oeddwn ...", ond yn gorffen gyda’r Arglwydd yn ei harwain adref. Mae’r boen mor real ag erioed, mae ganddi gant a mil o gwestiynau heb eu hateb ond mae’n gwybod at bwy i daflu’r cwestiynau; mae’n gwybod ar bwy i sgrechian ei phoen a’i dolur - y Duw hwn a’i harweiniodd adref. Wedi cyrraedd Bethlehem, mae taith arall ond yn megis dechrau i Naomi, y daith o Chwerwedd yn ôl i Hyfrydwch.
- Yng nghyd-destun stori Naomi, trafodwn y geiriau: Ni fu neb erioed mor isel na chai afael yn ei law.
- Beth yw eich barn am sylw Evelyn Underhill: No Christian escapes a taste of the wilderness on the way to the Promised Land