• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

YN ANAD UN (2) ATEB

January 18, 2018 Owain Evans

Eseia 2:2

Mae’r gweddill yn cyfeirio at offerynnau cerdd.

YN ANAD UN (2)

January 18, 2018 Owain Evans

Pos wythnosol.

Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.

Daw'r ateb am 20:30.

Pa adnod/adnodau NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?

MINNY’D (18) LLAFURIO AM YR HYN NAD YW’N DIGONI

January 17, 2018 Owain Evans

 ‘Minny'd’?

Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.

Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

January 12, 2018 Owain Evans

Ac wrth fynd o ddoe i’r ‘fory newydd draw,

gad i minnau afael yn dy law.

Echel hwyl a bwrlwm ein Hoedfa Foreol Gynnar (14/1 am 9:30 yn y Festri) fydd cyfieithiad John Gwilym Jones o eiriau Sydney Carter (CFf: 800). Cawn gyfle, gyda’n gilydd, o’r ieuengaf i’r hynaf, i ddathlu fod Duw wrth ein hymyl bob amser, hyd yn oed os byddwn ni’n cael cam gwag ambell dro, yn igam-ogamu weithiau, a hefyd pan fyddwn ni’n llwyddo i wneud camau breision.

Bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol

Effeithiolrwydd fydd testun pregeth ein Gweinidog yn yr Oedfa Foreol (10:30; Testun: Mathew 7:22&23. Darlleniadau: Mathew 7:21-23; Datguddiad 3:1-6; Mathew 16:13-20). Ni fu duw mwy poblogaidd yn ein hoes ni na'r duw bach a elwir ‘Effeithiolrwydd’. Gwrthrych parch a bri yw hwnnw neu honno sy'n cael pethau wedi eu gwneud. Tueddwn felly i amau'r breuddwydiwr a'r gweledydd. Ymateb yr ydym yn hytrach i bobl sy'n gweithredu; gweithredoedd nid geiriau yw arwyddair yr unfed ganrif ar hugain. Os trown at yr Efengylau, fe welwn yn gwbl glir, mai'r hyn a hawliau Iesu wrth ei bobl, o flaen popeth arall, oedd nid gweithredoedd - nid effeithiolrwydd - ond perthynas arbennig ac ef ei hun - perthynas agos a gonest. Dyna beth yw bod yn Gristion effeithiol, dyna beth yw bod yn eglwys effeithiol. Ildio’n barhaus i fod yn bobl Crist, i fod yn eglwys Crist yw’r unig lwyddiant i ymgyrraedd ato.

Bydd Owain yn dechrau ar gyfres newydd o bregethau nos Sul (18:00): ‘Pen i waered - Gwynfydau Iesu’. Pa mor aml fyddwch chi’n sefyll ar eich pen? Pa mor aml fyddwch chi’n edrych ar y byd ben i waered? Byddai wedi bod yn haws i’r disgyblion pe byddai Iesu wedi gofyn iddynt sefyll ar eu pennau wrth iddo eu hannerch. Mewn ychydig adnodau (Mathew 5:1-12) mae Iesu yn troi eu byd, a’u bywydau, pen i waered. Pobl oedd ar waelod y pentwr yn darganfod eu hunain ar y brig; pobl oedd ar y brig lawr yn y gwaelodion. ‘Roedd y disgyblion yn gyfarwydd â gwynfydau’r Salmau, ond ‘roedd natur a chynnwys Gwynfydau Iesu yn wahanol iawn. Gwyn eu byd y tlawd ... yr addfwyn ... y galarus. Nid dyma oedd disgyblion Iesu yn ei gysylltu â bywyd dedwydd a llwyddiannus - bywyd o wynfyd!

Bydd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol. Boed iddynt a’r Gweinidog amlygu’r cyfleodd sydd o’n blaen, ein hannog i gydio ynddynt, gan ymroi gyda’n gilydd i osod ein doniau at wasanaeth yr Achos, gan gymryd cyfrifoldeb o fewn yr eglwys, a chofio amdani mewn gweddi.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (16/1; 19:30 yn y Festri): "Hawl i Holi" yng nghwmni Angharad Mair, Betsan Powys, Eurfyl ap Gwilym a Vaughan Roderick

Koinônia amser cinio dydd Mercher (17/1): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.

Babimini bore Gwener (19/1; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.

Bydd blwyddyn Newydd yr Ysgol Sul yn dechrau bore Sul nesaf. Boed bendith.

YN ANAD UN (1) ATEB

January 11, 2018 Owain Evans

Salm 58:4

Adar sydd yn yr adnodau eraill

YN ANAD UN (1)

January 11, 2018 Owain Evans

Pos wythnosol.

Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.

Daw'r ateb am 20:30.

Pa adnod/adnodau NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?

MINNY’D (17) RHAID BWRW’R BÊL!

January 10, 2018 Owain Evans

 ‘Minny'd’?

Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.

Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.

'BETHANIA' - POBL YR HEN DESTAMENT

January 8, 2018 Owain Evans

SIFFRA a PUA

Exodus 1: 15-20

Wrth droi ychydig dudalennau cyntaf Llyfr Exodus, anodd yw peidio sylwi mor bwysig yw rôl nythaid o wragedd yn nechreuadau’r hanes. Dim ond dwy ohonynt sydd yn cael eu henwi: Siffra a Pua, dwy fydwraig yr Hebreaid. Y ddwy, gyda dewrder anhygoel, yn gwrthod cydymffurfio â deddf newydd Pharo. ’Roedd pob bachgen newydd-anedig o blith yr Hebreaid i’w ladd. Cyn hir sylweddola Pharo, er gwaetha’r ddeddf newydd, fod yr Hebreaid yn dal i gynyddu!

Mae’r ddwy fydwraig yn cael eu galw i bresenoldeb y Pharo. "Eglurwch i mi," meddai, "pam ydych chi’n gadael i fechgyn newydd-anedig yr Hebreaid i fyw?" Mae bywyd y ddwy yn y fantol ac mae Pharo yn amau eu twyll yn fawr. Gyda dyfeisgarwch a menter ryfeddol, dywedasant wrtho, "O Pharo, choeliwch chi ddim, ond mae gwragedd yr Hebreaid yn wahanol iawn i ni! Mae gwragedd yr Eifftiaid yn esgor am oriau, ond mae’r Hebreaid yn fywiog tu hwnt, heb boen geni o gwbl, yn esgor cyn i ni gyrraedd!" Mae’r eglurhad yn dibynnu ar y gobaith y bydd rhagfarn Pharo, a’i ofn o’r Hebreaid, yn drech na’i reswm. Felly y bu. Fe gredodd Pharo.

Oherwydd eu dewrder rhyfeddol mae’r ddwy yn haeddu cael eu henwau wedi eu nodi a’u cofio. Doed a ddelo, maent yn gwrthod baeddu eu dwylo â gwaed y diniwed. Trwy fod yn eofn ac wynebgaled maent yn rhoi cyfle i fywyd ddianc o grafangau marwolaeth!

Wrth ystyried hanes Siffra a Pua, trafodwch eiriau J. Cynddylan Jones a Pennar Davies:

  • Y mae'r saint i fod yn dryloyw fel gwydr i adael i oleuni'r nefoedd ddylifo i’r ddaear. Gellir edrych ar y mur, ond nid trwy'r mur. Eithr gellir edrych ar y ffenestr, a thrwy'r ffenestr, a gweld yr hyn sydd yr ochr draw iddi. Felly dylai cymeriadau'r saint fod - yn gymeriadau y gall y byd nid yn unig edrych arnynt, ond hefyd edrych drwyddynt a gweld Duw y tu cefn iddynt. (J.Cynddylan Jones)
  • Cefais yn y blynyddoedd diweddar hyn lawer o fendith wrth feddwl mai wrth fyw yr ydym yn gweddïo. Byw i Dduw, byw gyda Duw - dyna yw gweddi...Meddwl, gweithio, chwarae, gwneuthur popeth gyda golwg ar bwrpas Duw a chyda blas ar ei gariad llym a’i bresenoldeb chwyldroadol - dyna yw hanfod gweddi. (Pennar Davies)
← Newer Posts Older Posts →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021