Ac wrth fynd o ddoe i’r ‘fory newydd draw,
gad i minnau afael yn dy law.
Echel hwyl a bwrlwm ein Hoedfa Foreol Gynnar (14/1 am 9:30 yn y Festri) fydd cyfieithiad John Gwilym Jones o eiriau Sydney Carter (CFf: 800). Cawn gyfle, gyda’n gilydd, o’r ieuengaf i’r hynaf, i ddathlu fod Duw wrth ein hymyl bob amser, hyd yn oed os byddwn ni’n cael cam gwag ambell dro, yn igam-ogamu weithiau, a hefyd pan fyddwn ni’n llwyddo i wneud camau breision.
Bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol
Effeithiolrwydd fydd testun pregeth ein Gweinidog yn yr Oedfa Foreol (10:30; Testun: Mathew 7:22&23. Darlleniadau: Mathew 7:21-23; Datguddiad 3:1-6; Mathew 16:13-20). Ni fu duw mwy poblogaidd yn ein hoes ni na'r duw bach a elwir ‘Effeithiolrwydd’. Gwrthrych parch a bri yw hwnnw neu honno sy'n cael pethau wedi eu gwneud. Tueddwn felly i amau'r breuddwydiwr a'r gweledydd. Ymateb yr ydym yn hytrach i bobl sy'n gweithredu; gweithredoedd nid geiriau yw arwyddair yr unfed ganrif ar hugain. Os trown at yr Efengylau, fe welwn yn gwbl glir, mai'r hyn a hawliau Iesu wrth ei bobl, o flaen popeth arall, oedd nid gweithredoedd - nid effeithiolrwydd - ond perthynas arbennig ac ef ei hun - perthynas agos a gonest. Dyna beth yw bod yn Gristion effeithiol, dyna beth yw bod yn eglwys effeithiol. Ildio’n barhaus i fod yn bobl Crist, i fod yn eglwys Crist yw’r unig lwyddiant i ymgyrraedd ato.
Bydd Owain yn dechrau ar gyfres newydd o bregethau nos Sul (18:00): ‘Pen i waered - Gwynfydau Iesu’. Pa mor aml fyddwch chi’n sefyll ar eich pen? Pa mor aml fyddwch chi’n edrych ar y byd ben i waered? Byddai wedi bod yn haws i’r disgyblion pe byddai Iesu wedi gofyn iddynt sefyll ar eu pennau wrth iddo eu hannerch. Mewn ychydig adnodau (Mathew 5:1-12) mae Iesu yn troi eu byd, a’u bywydau, pen i waered. Pobl oedd ar waelod y pentwr yn darganfod eu hunain ar y brig; pobl oedd ar y brig lawr yn y gwaelodion. ‘Roedd y disgyblion yn gyfarwydd â gwynfydau’r Salmau, ond ‘roedd natur a chynnwys Gwynfydau Iesu yn wahanol iawn. Gwyn eu byd y tlawd ... yr addfwyn ... y galarus. Nid dyma oedd disgyblion Iesu yn ei gysylltu â bywyd dedwydd a llwyddiannus - bywyd o wynfyd!
Bydd cyfle i gyfrannau nwyddau tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol. Boed iddynt a’r Gweinidog amlygu’r cyfleodd sydd o’n blaen, ein hannog i gydio ynddynt, gan ymroi gyda’n gilydd i osod ein doniau at wasanaeth yr Achos, gan gymryd cyfrifoldeb o fewn yr eglwys, a chofio amdani mewn gweddi.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (16/1; 19:30 yn y Festri): "Hawl i Holi" yng nghwmni Angharad Mair, Betsan Powys, Eurfyl ap Gwilym a Vaughan Roderick
Koinônia amser cinio dydd Mercher (17/1): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Babimini bore Gwener (19/1; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
Bydd blwyddyn Newydd yr Ysgol Sul yn dechrau bore Sul nesaf. Boed bendith.