SIFFRA a PUA
Exodus 1: 15-20
Wrth droi ychydig dudalennau cyntaf Llyfr Exodus, anodd yw peidio sylwi mor bwysig yw rôl nythaid o wragedd yn nechreuadau’r hanes. Dim ond dwy ohonynt sydd yn cael eu henwi: Siffra a Pua, dwy fydwraig yr Hebreaid. Y ddwy, gyda dewrder anhygoel, yn gwrthod cydymffurfio â deddf newydd Pharo. ’Roedd pob bachgen newydd-anedig o blith yr Hebreaid i’w ladd. Cyn hir sylweddola Pharo, er gwaetha’r ddeddf newydd, fod yr Hebreaid yn dal i gynyddu!
Mae’r ddwy fydwraig yn cael eu galw i bresenoldeb y Pharo. "Eglurwch i mi," meddai, "pam ydych chi’n gadael i fechgyn newydd-anedig yr Hebreaid i fyw?" Mae bywyd y ddwy yn y fantol ac mae Pharo yn amau eu twyll yn fawr. Gyda dyfeisgarwch a menter ryfeddol, dywedasant wrtho, "O Pharo, choeliwch chi ddim, ond mae gwragedd yr Hebreaid yn wahanol iawn i ni! Mae gwragedd yr Eifftiaid yn esgor am oriau, ond mae’r Hebreaid yn fywiog tu hwnt, heb boen geni o gwbl, yn esgor cyn i ni gyrraedd!" Mae’r eglurhad yn dibynnu ar y gobaith y bydd rhagfarn Pharo, a’i ofn o’r Hebreaid, yn drech na’i reswm. Felly y bu. Fe gredodd Pharo.
Oherwydd eu dewrder rhyfeddol mae’r ddwy yn haeddu cael eu henwau wedi eu nodi a’u cofio. Doed a ddelo, maent yn gwrthod baeddu eu dwylo â gwaed y diniwed. Trwy fod yn eofn ac wynebgaled maent yn rhoi cyfle i fywyd ddianc o grafangau marwolaeth!
Wrth ystyried hanes Siffra a Pua, trafodwch eiriau J. Cynddylan Jones a Pennar Davies:
- Y mae'r saint i fod yn dryloyw fel gwydr i adael i oleuni'r nefoedd ddylifo i’r ddaear. Gellir edrych ar y mur, ond nid trwy'r mur. Eithr gellir edrych ar y ffenestr, a thrwy'r ffenestr, a gweld yr hyn sydd yr ochr draw iddi. Felly dylai cymeriadau'r saint fod - yn gymeriadau y gall y byd nid yn unig edrych arnynt, ond hefyd edrych drwyddynt a gweld Duw y tu cefn iddynt. (J.Cynddylan Jones)
- Cefais yn y blynyddoedd diweddar hyn lawer o fendith wrth feddwl mai wrth fyw yr ydym yn gweddïo. Byw i Dduw, byw gyda Duw - dyna yw gweddi...Meddwl, gweithio, chwarae, gwneuthur popeth gyda golwg ar bwrpas Duw a chyda blas ar ei gariad llym a’i bresenoldeb chwyldroadol - dyna yw hanfod gweddi. (Pennar Davies)