'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

 

Boed bendith y flwyddyn newydd hon, Dechrau’r flwyddyn newydd gyda Duw, gyda’n gilydd fydd echel yr Oedfa Deulu bore Sul (10:30). Wrth y Bwrdd, cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint. Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu beth yw arwyddocâd y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd yr eirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i gynnwys, addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith. Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r oedfa.

Ers sawl blwyddyn bellach, ‘rydym yn cynnal Gwasanaeth Plygain ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Buom yn ei gynnal yng nghapel syml Bethesda’r Fro ond erbyn hyn eglwys hardd Teilo Sant yn Sain Ffagan yw’n cyrchfan (14:00). Y Parchedig Ddr R. Alun Evans, aelod ‘anrhydeddus’ gyda ni yn Eglwys Minny Street sydd wedi arwain ein Plygain lawer tro, a mawr ein diolch iddo ac i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu. Hanfod y Blygain yw eich bod chi’n dod i gymryd rhan; a da fydd gweld eto’r eglwys ynghyd, o’r ieuengaf i’r hynaf, yn cymryd rhan gydag asbri. Bydd cinio yn Yr Hen Dŷ Post, Sain Ffagan cyn y Blygain (rhaid bod wedi archebu ymlaen llaw). Boed bendith a mwynhad.

Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd ein Gweinidog yn ymdrin ag adnod o Lyfr Datguddiad (21:5): Wele, yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd. Mae’r adnod yn awgrymu pedwar peth am y greadigaeth newydd. Y mae ei FFYNHONNELL yn Nuw: Wele, yr wyf FI yn gwneud ... Y mae hi’n FFAITH yn y byd sydd ohoni nawr - Wele, YR WYF yn gwneud ... Y FFACTORAU sy’n arwain ati yw adnewyddiad, adfer ac aduno. Y FFYDD sy’n deillio o hyn i gyd yw bod Duw, na fynnodd gefnu ar ei fyd, yn gyson adfer ac adnewyddu’r byd: Wele, yr wyf yn gwneud POB PETH yn NEWYDD.

Nos Lun (8/1; 19:00-20:30) - PIMS

Nos Fawrth (9/1; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda SIFFRA a PUA (Exodus 1:15-20). Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.