Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu tun o domatos?
Mae Banc Bwyd Caerdydd yn brin ohonynt.
Rho’n hael, heb warafun yn dy galon wrth roi.
(Deuteronomium 15:10a)
Your Custom Text Here
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu tun o domatos?
Mae Banc Bwyd Caerdydd yn brin ohonynt.
Rho’n hael, heb warafun yn dy galon wrth roi.
(Deuteronomium 15:10a)
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu saws coch/brown/gwyn?
Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.
(Galatiaid 6:2)
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu ychydig o gwstard?
Na chaleda dy galon, ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd.
(Deuteronomium 15:7)
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Heddiw, beth am brynu siampŵ neu ‘shower gel’?
Mae Banc Bwyd Caerdydd yn brin o’r pethau hyn.
Derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad.
(Mathew 10:8)
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Ceir awgrym o beth ellid ei gyfrannu ac adnod bob dydd.
Heddiw, beth am brynu twb o fenyn pysgnau neu fath arall o fwyd sydd yn ffynhonnell dda o brotein.
Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur.
(Diarhebion 3:27)
Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd.
Ceir awgrym o beth ellid ei gyfrannu ac adnod bob dydd.
Heddiw, beth am brynu potel o olew salad/coginio?
Canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.
(2 Corinthiaid 9:7b)
Echel ein hoedfa i’r teulu fydd yr Adfent (10:30) Bydd cyfle, drwy gyfrwng y casgliad rhydd, i gyfrannu tuag at waith Coleg yr Annibynwyr Cymraeg. Wedi'r oedfa, bydd paned, nwyddau Masnach Deg ynghyd ȃ "Dewch a Phrynwch" (Cynnyrch Cartref) er budd ein helusen, BanglaCymru.
Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd y Gweinidog yn dechrau ar gyfres o bedair pregeth i’n harwain trwy’r Adfent i’r Nadolig. Gwahoddir ni i ddathlu’r Nadolig gyda Marc, Mathew, Luc ac Ioan, pob un yn ei dro. Fel arfer, nhw sydd yn dod i tŷ ni fel petai, ond eleni, nyni fydd yn galw heibio gyda nhw. Bydd pob cartref yn wahanol wrth gwrs; mae natur a naws bob aelwyd yn wahanol. O bosib, byddwn yn fwy cysurus ar ambell aelwyd na’i gilydd, ond bydd bob un yn cynnig neges werthfawr am ystyr y Nadolig. Boed bendith. Eto, bydd cyfle, drwy gyfrwng y casgliad rhydd, i gyfrannu tuag at waith Coleg yr Annibynwyr Cymraeg. Wedi'r oedfa, bydd paned a nwyddau Masnach Deg .
Nos Lun (4/12; 19:00-20:30) PIMS
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (5/12; 19:30 yn y Festri): "Patagonia" yng nghwmni Lleucu Parri.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (6/12): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Mae dod ynghyd mewn grwpiau bach i ddysgu a thrafod yn ffordd wych o gefnogi ein gilydd wrth i bawb ohonom ddilyn llwybr yr Adfent. Cynhelir gennym eleni tri chyfarfod i’r diben hwnnw. Bydd y cyntaf nos Iau, (7/12; 7:30 yn y festri): Am Bwy ‘Rydym yn Aros? (Ar gyfer heddiw’r bore, Eos Iâl (Dafydd Hughes), 1794-1862).
Bore Gwener (8/12; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Samuel Wells: How then shall we live (Canterbury, 2016). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Social Media (t.57-65).
Cofiwch hefyd am ein Calendr Adfent tu chwith. Syniad syml: cyfrannu rhywbeth bob dydd o'r Adfent i'r Banc Bwyd. Ceir awgrym o beth ellid ei gyfrannu ac adnod bob dydd.
Ateb: Solomon
Diarhebion 3:5