Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb am 17:30.
Your Custom Text Here
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb am 17:30.
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
‘Cyfarfyddiad Jacob a Rachel’ gan Joseph Fuhrich (1800-1876)
LEA a RACHEL
Genesis 29: 16-18
‘Roedd gan Laban ddwy ferch; Lea'r hynaf a Rachel yr ieuengaf. "Yr oedd llygaid Lea yn bŵl, ond ‘roedd Rachel yn osgeiddig a phrydferth" (Genesis 29: 17) Mae storïwr Genesis yn feistr ar ei grefft! Ychydig eiriau cynnil a chraff yn dweud cyfrolau. Meddyliwch am y gair bach ‘pŵl’, "Yr oedd llygaid Lea yn bŵl". Llygaid heb loywder; digon plaen oedd Lea. Ond arhoswch am eiliad, diddorol a blasus weithiau yw cymharu cyfieithiadau gwahanol o ambell adnod neu air. Meddyliwch am ddau gyfieithiad Saesneg, "Leah had delicate eyes" a "Leah was tender-eyed". Ddim mor blaen felly! Ond, druan, ‘roedd hi’n blaen o’i chymharu â Rachel a oedd "yn osgeiddig a phrydferth".
Genesis 49: 29-33
Cafodd y twyllwr ei dwyllo! Oherwydd cyfrwystra Laban, bu raid i Jacob briodi Lea a Rachel. Mae’r storïwr yn awgrymu fod Lea dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â Jacob, ond hoffodd Jacob Rachel yn fwy na Lea. Anodd deall beth welodd yr un o’r ddwy yn Jacob! Rhaid bod llond trol o ‘charm’ gan yr hen sgamiwr! Bu Lea’n wraig ffyddlon a ffrwythlon i Jacob, ganwyd iddi chwe mab a merch; nid digon hynny i ennill calon Jacob! Rachel oedd y ffefryn. Wedi hir aros ganed mab i Rachel, Joseff. Wrth iddi esgor ar ei hail fab, Benjamin, bu farw Rachel. Claddwyd hi ym Methlehem. Mae tro rhyfedd ac annisgwyl yng nghynffon y stori. Blynyddoedd wedyn, a Jacob yn alltud yn yr Aifft, a’i fywyd yn dirwyn i ben, rhoes orchymyn i’w feibion i’w gladdu, nid wrth ochr Rachel ym Methlehem, ond yn ogof Machpela, lle claddwyd Abraham a Sara, Isaac a Rebeca ... a Lea. Yn y diwedd, gorwedd wrth ochr y ferch â’r llygaid pŵl oedd dewis Jacob.
Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Ddr Noel Davies (Abertawe). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Testun sylw’r Ysgol Sul fydd Dameg y Mab Afradlon (Luc 15:11-32). Lle fydd Iesu’n cuddio tybed? Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00.
Byddwn fel eglwys yn gyfrifol am baratoi a gweini te i’r digartref yn y Tabernacl prynhawn Sul am 14:30.
Nos Lun (27/11; 19:30): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol. Testun y ‘Genesis ‘ hwn fydd yr Adfent.
Taith Gerdded Rhiwbeina bore Mawrth (28/11; 10:30-12:30). Manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul.
Nos Fawrth (28/11; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda Lea a Rachel. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Babimini bore Gwener (1/12; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
Ateb: Iesu yn y Bregeth ar y Mynydd
Mathew 6:1
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb am 17:30.
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
Bydd Oedfaon y Sul dan arweiniad ein Gweinidog. Mari Fflur fydd yn arwain defosiwn yr ifanc bore Sul (10:30), a thestun gwers yr Ysgol Sul fydd ‘Tyrd i lawr Sacheus!’ (Luc 19:1-10). Yn homili’r bore (Luc 3:15-17,21-22; Salm 150) bydd Owain yn trafod rhinweddau peidio dod i’r Oedfa, Salm sy’n dweud dim a darganfod pwy ydym go iawn!
Bydd y casgliad rhydd at Waith y Genhadaeth fore a nos
Bod yn deilwng o’r alwad a gawsom (Salm 46; Luc 18:9-14 a 2 Thesaloniaid 1:1-4, 11-12) fydd testun pregeth Oedfa nos Sul (18:00). Wedi ein hachub trwy ras, rhaid byw gan ddathlu ac amlygu’r gras a’n hachubodd.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Bore a Nos Lun: Siopa Masnach Deg (yng nghartref aelod). Bydd bwydydd tymhorol, cardiau Nadolig, crefftau, teganau a llawer mwy ar gael!
Nos Lun (20/11; 19:00-20:30) PIMS
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, nos Fawrth (21/11; 19:30 yn y Festri): "Bywyd dwy feddyg" yng nghwmni Mererid Evans a Menna Roblin.
Nos Fercher (22/11; 19:30) Cinio Tsieineaidd yn "Hapus Dyrfa" (Happy Gathering) er budd ein helusen, BanglaCymru (angen bod wedi sicrhau tocyn)
Bore Gwener (24/11; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Samuel Wells: How then shall we live (Canterbury, 2016). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Europe (t.43-50).