LEA a RACHEL
Genesis 29: 16-18
‘Roedd gan Laban ddwy ferch; Lea'r hynaf a Rachel yr ieuengaf. "Yr oedd llygaid Lea yn bŵl, ond ‘roedd Rachel yn osgeiddig a phrydferth" (Genesis 29: 17) Mae storïwr Genesis yn feistr ar ei grefft! Ychydig eiriau cynnil a chraff yn dweud cyfrolau. Meddyliwch am y gair bach ‘pŵl’, "Yr oedd llygaid Lea yn bŵl". Llygaid heb loywder; digon plaen oedd Lea. Ond arhoswch am eiliad, diddorol a blasus weithiau yw cymharu cyfieithiadau gwahanol o ambell adnod neu air. Meddyliwch am ddau gyfieithiad Saesneg, "Leah had delicate eyes" a "Leah was tender-eyed". Ddim mor blaen felly! Ond, druan, ‘roedd hi’n blaen o’i chymharu â Rachel a oedd "yn osgeiddig a phrydferth".
Genesis 49: 29-33
Cafodd y twyllwr ei dwyllo! Oherwydd cyfrwystra Laban, bu raid i Jacob briodi Lea a Rachel. Mae’r storïwr yn awgrymu fod Lea dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â Jacob, ond hoffodd Jacob Rachel yn fwy na Lea. Anodd deall beth welodd yr un o’r ddwy yn Jacob! Rhaid bod llond trol o ‘charm’ gan yr hen sgamiwr! Bu Lea’n wraig ffyddlon a ffrwythlon i Jacob, ganwyd iddi chwe mab a merch; nid digon hynny i ennill calon Jacob! Rachel oedd y ffefryn. Wedi hir aros ganed mab i Rachel, Joseff. Wrth iddi esgor ar ei hail fab, Benjamin, bu farw Rachel. Claddwyd hi ym Methlehem. Mae tro rhyfedd ac annisgwyl yng nghynffon y stori. Blynyddoedd wedyn, a Jacob yn alltud yn yr Aifft, a’i fywyd yn dirwyn i ben, rhoes orchymyn i’w feibion i’w gladdu, nid wrth ochr Rachel ym Methlehem, ond yn ogof Machpela, lle claddwyd Abraham a Sara, Isaac a Rebeca ... a Lea. Yn y diwedd, gorwedd wrth ochr y ferch â’r llygaid pŵl oedd dewis Jacob.
- Y dyn y cefais i fwyaf o drafferth gydag ef, meddai Dwight L. Moody, oedd Dwight L. Moody. (Cenhadwr a phregethwr Americanaidd oedd Dwight L. Moody; 1837-1899). A’i dyna’r gwir am bob un ohonom?
- Yng nghyd-destun profiad Lea, Rachel a Jacob trafodwch eiriau Thomas Philips (1806-1870): Dau beth sy'n syndod i mi. Ymddiriedaeth Duw mewn pobl ac amynedd Duw gyda phobl.
- Beth yw maddeuant?