Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Ddr Noel Davies (Abertawe). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Testun sylw’r Ysgol Sul fydd Dameg y Mab Afradlon (Luc 15:11-32). Lle fydd Iesu’n cuddio tybed? Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00.
Byddwn fel eglwys yn gyfrifol am baratoi a gweini te i’r digartref yn y Tabernacl prynhawn Sul am 14:30.
Nos Lun (27/11; 19:30): ‘Genesis’. Awr fach hamddenol yn y festri: defosiwn syml yn arwain at fymryn o waith llaw syml a buddiol. Testun y ‘Genesis ‘ hwn fydd yr Adfent.
Taith Gerdded Rhiwbeina bore Mawrth (28/11; 10:30-12:30). Manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul.
Nos Fawrth (28/11; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda Lea a Rachel. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Babimini bore Gwener (1/12; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.