Testun y dysgu a’r trafod yn ‘Bethania’ eleni yw Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.
Josua 22:21-34
Daw cyfle nawr i benaethiaid Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse i’w hamddiffyn eu hunain trwy esbonio gwir ystyr yr allor ar lan yr Iorddonen a chywiro camddealltwriaeth a bu bron iddo arwain i ryfel. Pwysleisiant nad canolfan addoliad newydd mo’r allor hwn. Yn hytrach, cofgolofn ydoedd gyda thri phwrpas arbennig, pob un ohonynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r dyfodol.
Yn gyntaf, safai’r allor fel tyst i blant y ddwy ochr o’r undeb gwreiddiol rhwng y llwythau. Am fod yr afon yn ffurfio terfyn naturiol, hawdd fyddai i ddisgynyddion y concwerwyr golli golwg ar y ffaith ei bod i gyd o’r un gwaed ac yn perthyn i’r un bobl. Wrth edrych ar y gofgolofn, cant ei hatgoffa o’r ddolen gysylltiol rhyngddynt, dolen na ellid ei thorri, beth bynnag yr amgylchiadau. Fe ddysgent barchu ei gilydd.
Yn ail, roedd yr allor yn cysylltu plant y ddau lwyth â hanner a’r gorffennol. Nid oedd y tadau’n fodlon i’r hanes cynnar gael ei anghofio; roedd ganddo wersi pwysig i’w dysgu i bob cenhedlaeth newydd. Dylai’r plant fod yn ymwybodol o ymdrech yr arloeswyr ac yn ddiolchgar am eu haberth.
Yn olaf, tystiai’r allor i wir grefydd Israel. Ofnai’r tadau i’w plant anghofio telerau cyfamod Sinai a chael eu hudo i anghofio’r Arglwydd ac i ddilyn duwiau estron. Byddai’r gofgolofn yn eu hatgof o’u dyletswyddau crefyddol ac o’r ffaith fod gan Dduw hawl arnynt. Trwy gadw eu llygadi ar yr allor, cant ei hatal rhag crwydro, ac o ganlyniad ennyn anfodlonrwydd yr Arglwydd.
Y mae pawb ohonom yn siŵr o gydymdeimlo a hyn oll. Dyhead pennaf pawb ohonom yw bod y sawl sydd yn ddibynnol arnom yn tyfu i barchu pobl, i werthfawrogi gwersi’r gorffennol a bod yn ffyddlon i Grist.
Josua 23:1-11
Yn Israel, fel ymysg y cenhedloedd yr hen fyd yn gyffredinol, roedd grym arbennig yn perthyn i eiriau olaf arwyr y ffydd. Caent eu cofnodi’n ofalus a’u parchu. Cyn marw byddai arweinydd llwythol neu benteulu yn bendithio’i blant a’i wyrion, ac weithiau yn melltithio’i elynion. Er enghraifft, yn yr Hen Destament cawn eiriau olaf Jacob (Genesis 49), Moses (Deuteronomium 32) a Dafydd (2 Samuel 23:1-7) ac yn y Testament newydd geiriau Iesu i’w ddisgyblion cyn iddo gael ei groeshoelio (Ioan 13-17). Dyma sydd i’w gael yn nwy bennod olaf Lyfr Josua, sef pregethau ymadawol yr hen ryfelwr i’r llwythau. Ym mhennod 23 y mae ei neges yn canolbwyntio ar dri pheth: yr hyn y mae Duw wedi ei wneud; yr ymateb a ddisgwylir gan Israel; ac yn olaf, yr hyn y mae Duw am ei wneud.
Yn adnodau 3-5 y mae’r pwyslais ar y pwynt cyntaf. I Dduw, nid i Josua y mae’r clod am sefydlu’r genedl yng ngwlad yr Addewid. Canys yr Arglwydd eich Duw yw hyn hwn a ymladdodd drosoch (adnod 3). Y mae Josua am i Israel gofio sut y brwydrodd yr Arglwydd drosti yn y gorffennol.
Rhaid i ninnau gael ein hatgoffa’n barhaus i ddiolch i Dduw am ei ddaioni. Gwyddai’r Salmydd am y tueddiad sydd ym mhob un ohonom i gymryd llawer o bethau’n ganiataol a pheidio â chydnabod fod llaw Duw y tu ôl iddynt. Meddai’n fyfyrgar: Fe enaid, bendithia’r Arglwydd A phaid anghofio’i holl ddoniau (103:2). Beth sy’n llesteirio’n parodrwydd i gydnabod y rhoddwr sydd y tu ôl i’r rhodd?