'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf; Sul llawn, ac amrywiol ei fendithion.

Dewch â chroeso mawr i’r Oedfa Foreol (10:30). Sgwrs i’r plant a phlantos; ‘Fe welai i gyda fy llygaid bach i …’ ac Ysgol Sul. Bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau: ‘Adnodau Ych!’. Bwriad Owain yw mynd i’r afael â’r darnau dicllon, cas rheini o’r Beibl. Gwyddom amdanynt; gwyddom fod y rhain ynghudd ym mhlygion Air disglair Duw, ond prin, os o gwbl y cyfaddefwn hynny. Echel y myfyrdod y tro hwn yw’r ddelwedd filwrol. Da fuasai darllen rhag blaen y 6ed bennod o Lyfr Josua ac Effesiaid 6:10-18.

Yn yr Oedfa Hwyrol (18:00) bydd Owain yn ein hannog i ystyried neges y ddraenen ddu. Oedfa Gymundeb fydd hon. Cawn gyfle i gydymdeimlo â’r galarus yn ein plith, a chofio’r aelodau hynny sy’n methu a bod gyda ni, gan bellter ffordd, cystudd neu henaint.

Bydd paned a nwyddau Masnach Deg yn y Festri wedi'r oedfa.

Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth iddynt edrych a threfnu i’r dyfodol.

Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (4/2; 19:30 yn y Festri): “Cael dau ben llinyn ynghyd yn ystod Dirwasgiad 1930” yng nghwmni Ellen Phillips.

Babimini bore Gwener (7/2; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.

Taith Gerdded (7/2; 10:00-13:30): dros y morglawdd (manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul).