Heno, am 7:30...Wedi7. Ymhell Wedi 7 felly dyma’r chwech ohonom yn eistedd wrth y bwrdd. Dim trafferth yn y gegin heno: llond cawg o gawl Cymreig yn rhodd gan un o’r aelodau, a chan fod llysieuwyr yn y cwmni: llond sosban fawr o gawl pwmpen siop! Llysieuwyr ai peidio, mynnodd pawb - allan o chwilfrydedd yn fwy na dim - cael blasu hwnnw! Cymysg oedd yr ymateb cystal cydnabod.
Gwên o noson fu hon, a phawb wrth rannu’r cawl yn rhannu sgwrs, hanes, atgof ac ambell ddymuniad a gofid. Do, daeth ambell ysgyfarnog heibio, ac aethom ar ôl rheini hefyd! Fel halen a phupur i'r noson bu chwerthin, tynnu coes, ac ambell ofyn treiddgar, ac i’r gofyn sawl ymateb lled gall a chall iawn.
Cawl, caws, bara a chwmni diddan - Wedi7 - llond tŷ o drafod a chwerthin; hwyl a bendith.