Un o feddylwyr cawraidd yr Eglwys yn yr ugeinfed ganrif oedd Paul Tillich (1886-1965). Ganwyd Tillich yn 1886 yn Starzeddel, talaith Brandenburg, yn yr Almaen. Graddiodd yn Ddoethur mewn Athroniaeth yn 1911 ym Mhrifysgol Breslau, a graddio ymhellach mewn Diwinyddiaeth yn Halle yn 1912. Bu’n gaplan yn rhyfel 1914-18, a chydnabu mai dyna’r profiad mwyaf ysgytwol a ddaeth i’w ran yn ei yrfa weinidogaethol. Penodwyd ef yn Athro Diwinyddiaeth yn Berlin, yna yn Marburg, Dreseden, a Leipzig; ac yn 1929 aeth i Gadair Athroniaeth Prifysgol, Frankfurt. Llefarodd yn groyw a chadarn yn erbyn Natsïaeth, ac yn 1933 aeth i Union Seminary, Efrog Newydd, yn ffoadur. Bu’n Athro yno, yn Columbia, Havard, a Chigago.
Ysgolhaig bob-un-fodfedd oedd Tillich; dyn glân o bryd a gwedd, a gŵr o ddifrif yn yr ystafell ddarlithio ac yn y pulpud. Mae ei waith mawr Systematic Theology (3 cyfrol; 1951, 1957, 1963; UCP), ar gyfer darllenwyr dygn (gan fenthyg un o ymadroddion fy nhad: ‘bwyd giraffes’ ydyw), ac yn gyffredinol, gellid dweud nad yw ei weithiau diwinyddol yn hawdd i’w treulio, hyd yn oed yng nghrynodebau John A.T. Robinson (1919-1983) yn Honest to God (1963; SCM) ac Yr Argyfwng Gwacter Ystyr (1963/64) gan J.R. Jones (1911-1970). Peth cwbl arall yw ei bregethau - yn The Shaking of the Foundations (1940), The New Being (1955) a The Eternal Now (1963) gwelir Tillich ar ei orau. Er treigl y blynyddoedd, mae’r pregethau’n ffres, a’r her yn frawychus o berthnasol. Dywed hyn rywbeth am Tillich, ac am ein cyflwr ninnau.
I gloi, dyma stori am Tillich yn ateb y Cristion hwnnw a ysgydwodd Beibl ato, a gofyn: ‘Ai Gair Duw yw hwn?’ ‘Os ti sy’n ceisio ‘meddiannu’ y Beibl, nage,' meddai Tillich, 'ond os gadewi i’r Beibl dy ‘feddiannu’ di, yna Gair Duw ydyw.’
Hanner can mlynedd ers ei farw, diolch amdano. Diolch am yr hwn a’n rhybuddiodd yn erbyn gwneud eilun o’r eglwys, ond a soniodd, hefyd, am gapel a llan fel ‘mannau dwysedd sancteiddrwydd’.