Bob nos ar fy ngwely
ceisiais fy nghariad;
fe’i ceisiais, ond heb ei gael.
(Caniad Solomon 3:1 BCN)
Nid yw llwybr cariad bob amser yn esmwyth, ac mewn breuddwyd gwêl y gariadferch ei hunan yn chwilio’n ofer am ei chariad. Try’r breuddwyd yn hunllef, oherwydd fe’i ceisiais, ond heb ei gael.
Rhydd y Testament Newydd bwyslais mawr ar geisio: 'Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw'; 'Ceisiwch a chwi a gewch'. Nid ymdrech wag mo’r ceisio hwn, yn wir, mae’r sawl sy’n chwilio am Dduw eisoes wedi ei gael.
I bob ymddangosiad allanol 'rydym yn byw mewn cyfnod nad sydd yn ceisio Duw; nid oes diddordeb gan bobl, meddir, mewn chwilio am Dduw. Ond mae gan bobl ddiddordeb mewn pobl, ac o gredu yn Emaniwel, Duw gyda ni ... onid chwilio am Dduw mae’r sawl sy’n chwilio am gymydog?
Benthycwn brofiad William Williams (1717-91) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Chwilio amdanat, addfwyn Arglwydd,
mae fy enaid yma a thraw ... Amen.
(OLlE)