Yr Iesu a wyla ...
Y dydd Gwener aeth heibio (14/10), nodwyd pen-blwydd y danchwa ym Mhwll yr ‘Universal’ yn Senghennydd ger Caerffili yn 1913: lladdwyd 439 o ddynion a bechgyn. Y dydd Gwener a ddaw (21/10), nodir treigl 50 mlynedd ers llithro rhan o’r domen lo yn Aberfan ger Merthyr Tydfil, a dinistrio tai a chladdu rhan o Ysgol Pant-glas. Lladdwyd 116 o blant a 28 o oedolion.
Yr Iesu a wyla ...
Gwelsom luniau o’r newyn a’i wae yn Somalia, ac yn Yemen.
Yr Iesu a wyla ...
Gwelsom luniau o ddifrod Haiti a'r difrodi yn Aleppo a Mosul ...
Yr Iesu a wyla ...
Gwelsom luniau o jyngl Calais ...
Yr Iesu a wyla ...
Chithau, yn eich galar mawr a’ch hiraeth nawr.
Yr Iesu a wyla ...
Mi wn yn iawn mor ystrydebol yw dweud bod cysur a chymorth i ni yn y ffaith i Iesu wylo. Ystrydebol ai peidio, erys y gwirionedd.
Yr Iesu a wylodd (Ioan 11:35). Er mae hon yw’r adnod fyrraf ohonynt i gyd, nid oes terfyn i uchder, dyfnder, hyd a lled y geiriau - maent yn cynnwys holl ddynoliaeth Iesu. Ar sail yr adnod hon, gwyddom nad Duw pell, difater sydd gennym, ond Duw gyda ni - Duw gyda’i bobl yn eu poen a’u tor-calon.
Fe berthyn peryglon enbyd i bob ystyriaeth academaidd o ‘broblem dioddefaint’. Brawychus, os nad wir, pechadurus o hawdd yw diwinydda am y broblem hon, ond mae ein diwinyddiaeth yn gwbl amherthnasol i’r rheini sydd wedi disgyn i waelodion tywyll bywyd. Gellid darganfod wrth edrych yn ôl, fod Duw yn ein harwain, ein cynnal, ein cadw, a bod ganddo’r gallu anhygoel i dynnu gobaith newydd allan o dan bawen drom anobaith. Yn wir, mae Duw, ym mhob peth yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu (Rhufeiniaid 8:28a). Daw’r sylweddoliad hyn gydag amser, ond nid oes yn y geiriau hyn unrhyw gysur i bobl sydd newydd syrthio i drobwll galar a cholled. Pan ddifrodir bywyd, mae geiriau yn methu - nid oes digon o gryfder gan y cryfaf o’n geiriau i ddal pwysau dolur amrwd. Beth sydd felly? Dagrau ... a choflaid, neu gyffyrddiad, neu ysgydwad llaw mymryn yn dynnach, mymryn yn hirach nag arfer; ac o feddwl am argyfyngau byd beth sydd well na geiriau? Eto, dagrau ... ac ymateb i’r apêl, ac ymateb eto i’r apêl, ac ymateb eto fyth i’r apêl.
Heb os, erys problem dioddefaint yn broblem enfawr, ac mae llawer i ddweud, llawer sydd angen dweud, llawer na ddylid byth ei ddweud am y broblem honno ... ond yn y byd hwn, sydd yn drwch o boen, yr hyn sydd wir angen yw nid dadansoddiad diwinyddol, ond dagrau: ... wylwn gyda’r rhai sy’n wylo (Rhufeiniaid 12:15).
(OLlE)