Y Wyddor i’r Diaconiaid Newydd
A - Anrhydeddwch eich cyfrifoldeb; boed i chi amddiffyn ac arweiniad. Arddelwch Arglwyddiaeth Iesu Grist. Amlygwch addewid Abba Dad. Cofiwch bwysigrwydd addoli.
B - Braint yw gwasanaeth. Nid ‘Blaenoriaid’ mohonoch, ond 'blaenaru' yw eich gwaith - chwilio ffordd, torri ffordd, mentro’r ffordd. Chi yw blaenrhes ein gweinidogaeth.
C - Cariad. Cariad; calon crefydd. Ym mhob peth felly: Cariad: canoli ar Dduw; codi croes; cydweithwyr Duw; cydymdeimlad, cadernid, cynhaliaeth. Cysegrwch eich hunain i’r cariad hwn.
Ch - Chi gofiwch eiriau Iesu: Chi yw Goleuni’r Byd (Mathew 5:14); Chi yw halen y ddaear (Mathew 5:13). Chwilio’r Gair, a chymdeithas y Saint, a chynnydd ysbrydol.
D - Darllen; rhaid dysgu darllen rhwng llinellau bywyd a gwasanaeth yr eglwys hon: darganfod, datgelu dylanwad daioni Duw - dyma sy’n dyrchafu eglwys.
Dd - ‘Ddaw’r haul ddim i dywynnu bob amser. Na ddigalonnwch. Rhaid wrth ddalifyndrwydd.
E - Estynnwch am eich gilydd ac am eraill am gymorth, am gyngor, am gadernid. Estynnwch am Dduw. Ceisiwch ewyllys Duw: yn ufudd, yn ffyddlon ac yn llawen. Cofiwch Esiampl Iesu.
F - Fydd popeth a wnewch ddim yn dderbyniol gan bawb. Byddwch fyddar ac yn fud ar adegau.
Ff - Ffydd - ffydd yn Nuw, ffydd yn ein gilydd fel eglwys. Gyda’r ffydd ddeublyg honno trwy eich tymor o wasanaeth yn gwau daw, o’ch herwydd, ffrwd newydd o fendith.
G - Gwarchod y Gymdeithas Gristnogol yn ein plith. Gweld goleuni; gwahodd gwirionedd; gweddïo a gweddi, gorlifo â gobaith, grym y groes; gwasanaeth, gras, gwrandawiad.
Ng - ENghraifft - boed i’ch gwasanaeth fod yn enghraifft o’r hyn oll all y ddiaconiaeth fod.
H - Ym mhob hynt a helynt, byddwch hyderus yn ein hymddiriedaeth ynoch.
I - Iesu. Heb Iesu, ofer y cyfan oll. Iesu - ynddo ef y mae ein nerth a’n digonedd.
L - Lefeiniwch fywyd yr eglwys â daioni, er daioni.
Ll - Llafuriwch yn ddiwyd gyda’ch gilydd, er lles y lliaws. Daw llawenydd gyda’r llafur hwn.
M - Meddwl. Agorwch eich meddwl i feddwl Duw. Ildiwch i feddwl Duw.
N - Boed nawdd, nodded a nerth i chi, byddwch i’r eglwys hon yn nerth, nodded a nawdd.
O - Offrymwch eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a chymeradwy gan Dduw.
P - Parch; pwyll; pardwn parod - presgripsiwn y pwyllgor perffaith. Pwysig sefyll yn gadarn fel y dderwen, ond llesol ar adegau yw plygu fel y fedwen.
Ph - Physygwyr; Luc y physygwr annwyl (Col: 4:14). Nid oes ymhlith ein diaconiaid physygwr; perthyn i bob un anwyldeb a all wneud pobl yn barod eu cymorth, yn dirion, yn dda.
R - ‘Rwyf fi’, ‘rwyt ti’, ‘rym ni i rannu’r weinidogaeth hon.
Rh - Yn rhwymau’r cyfrifoldeb, byddwch ymwybodol o wendidau’r eglwys, yn werthfawrogol o’i rhinweddau. Ymrowch i gadw ... yr undod y mae’r Ysbryd yn ei roi (Effesiaid 4:2-3).
S - Byddwch sanctaidd: adnabod gweithgarwch Duw, a rhannu yn ei waith.
T - Tynnwch eich pwysau. Tynnwch gyda’ch gilydd, tynnwch at eich gilydd.
Th - Thal hi ddim heb fynd i’r afael â phroblemau a’u datrys - dyna’r unig ffordd ymlaen.
U - Un - byddwn yn un mewn pwrpas a bwriad, yn un mewn calon ac ysbryd, yn un mewn ffydd a gobaith; yn un gan mai un cariad sydd yn ein cydio ynghyd, a’r un gred fod Iesu Grist yn ben.
W - Wyneb yr Arglwydd Dduw a lewyrcho arnoch. Ceisiwch wyneb yr Arglwydd bob amser.
Y - Ystyriwch y pethau hyn, a gwyn eich byd os gwnewch hwynt a chael yr Eglwys hon i wneud hynny hefyd, gyda chi, ac o’ch herwydd.