Ers mis Medi'r llynedd, bu’r Oedfaon Teulu yn dilyn trywydd arbennig: ‘Rhifo’. Thema’r Oedfa Deulu mis Mehefin oedd ‘10’, a bu ein Gweinidog yn ein dysgu sut i gofio’r 10 Gorchymyn gan ddefnyddio 10 bys ein dwy law.
Mae’r 10 Gorchymyn yn cael eu rhannu’n ddwy ran, ac y mae’r toriad yn un amlwg. Yn gyntaf cawn 4 gorchymyn sy’n canolbwyntio ar ddyletswydd pobl tuag at Dduw (Exodus 20:3-11):
1. Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.
2. Paid addoli pethau eraill.
3. Paid defnyddio enw Duw yn anghywir.
4. Cadw’r dydd Saboth yn sbesial, yn ddiwrnod ar wahân.
Y mwyaf arwyddocaol o’r 4 yw’r cyntaf - sef yr un sy’n galw ar bobl Dduw i fod yn ffyddlon i’r Arglwydd ei Duw, ac iddo Ef yn unig. Yng nghyfnod Moses ‘roedd hwn yn syniad newydd a dieithr, oherwydd crefyddau amldduwiol oedd crefyddau’r hen fyd. Ni theimlai’r bobl ar y pryd unrhyw chwithdod wrth addoli llawer o wahanol dduwiau. Am fod dylanwad y fath grefyddau’n fawr yn y Dwyrain Canol, cafodd Israel gryn drafferth i gadw’r gorchymyn hwn. Ond, o dipyn i beth, fe sefydlwyd undduwiaeth fel canolbwynt y grefydd Iddewig, ac yn ddiweddarach dderbyniodd Islam a Christnogaeth hefyd y gred hon.
Y mae’r 6 gorchymyn olaf yn cyfeirio ar ddyletswyddau pobl ar ei gilydd (Exodus 20:12-17):
5. Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam
6. Paid lladd
7. Bydd yn ffyddlon i dy ŵr neu dy wraig
8. Paid dwyn
9. Paid â dweud celwydd
10. Paid chwenychu eiddo pobl eraill.
Nid deddfau caeth sy’n llyffetheirio’r bersonoliaeth mohonynt, ond yn hytrach canllawiau anhepgorol i bob cymdeithas ym mhob oes. Cofiwn am y pwyslais arbennig a geir mewn Iddewiaeth ar fywyd teuluol, pwyslais sy’n deillio’n uniongyrchol o’r adnodau hyn.
Ond nid Israel yn unig sy’n gwerthfawrogi’r 10 Gorchymyn. Derbyniwyd hwy yn eu crynswth gan y Cristnogion cynnar. Er bod Paul yn feirniadol o’r dehongliad ohonynt a nodweddai Iddewiaeth ei gyfnod, nid oedd ganddo unrhyw amheuaeth ynglŷn â phwysigrwydd y cyfreithiau sylfaenol. Cofiwn hefyd fod Iesu wedi dod, nid i ddileu, ond i gyflawni’r gyfraith. Y mae dylanwad y 10 Gorchymyn i’w ganfod hyd heddiw yn y rhan fwyaf o wledydd y Gorllewin.
Gan ddefnyddio addasiad syml o’r 10 Gorchymyn fel y gwelir hwy yn beibl.net:
1. Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.
2. Paid addoli pethau eraill.
3. Paid defnyddio enw Duw yn anghywir.
4. Cadw’r dydd Saboth yn sbesial, yn ddiwrnod ar wahân.
5. Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam
6. Paid lladd
7. Bydd yn ffyddlon i dy ŵr neu dy wraig
8. Paid dwyn
9. Paid â dweud celwydd
10. Paid chwenychu eiddo pobl eraill.
Anogwyd ni gan ein Gweinidog i ddechrau trwy godi ein mynegfys. 1 bys: 1 Duw. Duw yn unig. Duw, dim ond Duw. Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.
Paid addoli pethau eraill. Er mawr syndod i bawb, bu sŵn a chynnwrf o’r oriel, a phawb yn troi i edrych. Onid naturiol hynny? Peth anarferol y fath sŵn! Connor - mab y Gweinidog - oedd yno, ac yno i bwrpas. Mynnai Owain fod pob math o bethau'n tynnu’n sylw oddi wrth Dduw, yn union fel y tynnodd Connor a'i swn, ein sylw heddiw wrth addoli a dysgu. Mae’r ail Orchymyn yn dweud bod rhaid cadw ein golwg ar Dduw - talu sylw i Dduw - a pheidio gadael i ryw bethau eraill dynnu’n sylw oddi wrtho, gan mae Duw yw Duw. Cyflwynwyd hyn o neges drwy gyfrwng 2 fys. A ddylem addoli fwy nag un Duw? Na, mae dau yn ormod - dim ond un Duw sydd, felly dim ond un Duw sydd yn haeddu cael ei addoli.
Yna 3 bys ar led, a rheini felly’n creu’r llythyren ‘W’. Beth yw’r gair Saesneg am ‘Gair’ gofynnodd y Gweinidog i’r plant? Word wrth gwrs! Rhaid bod yn ofalus o sut y defnyddir geiriau! Rhaid defnyddio enw Duw er lles. Ni ddylid defnyddio enw Duw i frifo pobl eraill: Paid defnyddio enw Duw yn anghywir.
Cadw’r dydd Saboth yn sbesial, yn ddiwrnod ar wahân. ‘Roedd 4 bys yn sefyll, a’r bawd ymhlyg tanynt. ‘Roedd y bawd, mynnai Owain, yn gorffwys. Rhaid i bawb orffwys; arafu a phwyllo.
Ymlaen yr aethom, gan osod 4 bys a bawd y llaw chwith dros y galon: Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam. Mae Duw am fod cariad yn amlwg yn ein hymwneud a’n gilydd fel teulu.
Wedi bwrw golwg dros y 5 Gorchymyn cyntaf. ‘Adolygu’ oedd y gair defnyddiodd Owain Llyr, ond bu’r fath duchan ac ochneidio wrth glywed y gair hwnnw, addawodd peidio’i ddefnyddio eto, er tegwch i’r bobl ifanc (a rhieni) oedd yn bresennol, sydd ar hyn o bryd yn torri’i ffordd trwy jyngl adolygu ac arholiadau!
Wedi gair o weddi, ymlaen at y chweched Gorchymyn. Anogwyd ni i greu siâp gwn gan ddefnyddio mynegfys y llaw dde. ‘Roedd yn neges yn syml amlwg: Paid lladd.
Bydd yn ffyddlon i dy ŵr neu dy wraig. Gan gadw cledr y llaw chwith yn fflat, gosodwyd dau fys cyntaf y llaw dde i sefyll arno. Codi bysedd a bawd y llaw chwith wedyn, gan ddychmygu mae’r bysedd yw’r gynulleidfa a’r bawd? Duw. Mewn priodas, meddai Owain, mae pobl yn addo bod yn ffyddlon i’w gilydd, doed a ddelo. Mae Duw am i ni wneud ein gorau glas i gadw’r addewid honno.
Gan godi dwy law, yn sydyn ‘roedd y llaw dde wedi ‘dwyn’ bawd y llaw chwith: Paid dwyn!
Paid â dweud celwydd - eto, ‘roedd y ddwy law i fyny, ond ‘roedd bawd y llaw dde yng nghudd. Mae bawd y llaw dde, meddai’r Gweinidog, yn sibrwd rhyw bethau cas wrth bedwar bys ei law, am fysedd a bawd y llaw chwith. Rhaid peidio dweud na rhannu pethau cas am bobl eraill.
Paid chwenychu eiddo pobl eraill. Gosododd y Gweinidog ei ddwylo, ar agor, cledrau i fyny, gan annog pawb i wneud yr un fath, a dweud ar ei ôl: Gimmie! Gimmie! Trwy’r chwerthin a’r hwyl, gwelwyd a derbyniwyd yr her: rhaid dysgu bod yn fodlon gyda’r hyn sydd gennym, a diolch am ein bendithion.
Wedi bwrw golwg dros y cyfan, fe’n hatgoffwyd mai dyma benllanw’r gyfres o Oedfaon Teulu ‘Dysgu Cyfrif’. Da a buddiol bu'r gyfres hon. Diolch amdani. Tybed beth fydd trywydd ein Hoedfaon Teulu o fis Medi ymlaen? 'Ffrwythau’r Ysbryd' efallai? Bydd rhaid aros i gael gweld.
Fred oedd yn arwain ein defosiwn heddiw, a llawn haeddai’i fyfyrdod a gweddi eu cofnodi’n llawn.
"‘Rydych chi’n gwybod bod ein Gweinidog wedi rhoi cyfres o bregethau ar rifau, ac wedi cyrraedd y rhif 10. ‘Rwyf wedi bod yn dyfalu beth fuaswn i’n gwneud gyda’r rhif deg. Yn gyntaf meddyliais am y Deg Orchymyn ac yna meddyliais am arian, oherwydd mae’r rhan fwyaf o systemau arian y byd yn seiliedig ar y rhif 10. ‘Rwy’n hoffi’r ffaith ein bod ni yn Gymraeg yn sôn am ‘fod yn deg’ ond nid yr un ‘deg’ yw hynny, wrth gwrs!
Moses roddodd y Deg Orchymyn i’r Iddewon, a’r gorchymyn cyntaf oedd mai dim ond un Duw sydd a ddylai neb addoli dim byd arall, ond rwy’n meddwl bod llawer o bobl yn ein byd ni heddiw yn meddwl mwy am arian nac am Dduw, ac yn y ffordd yna yn addoli arian a phethau materol, ac mae hynny’n beth drwg.
Mae’r Deg Orchymyn yn dechrau gyda sut ddylem ni addoli Duw, ac yna yn mynd ymlaen i ddweud sut ddylem ni drin eraill.
Ni ddylem ladd
Na dweud pethau cas am eraill
Ni ddylem ddwyn.
Na bod yn eiddigeddus o bobl eraill a’r hyn sydd ganddynt.
Canrifoedd wedyn daeth Iesu Grist i’r byd i ddangos i ni sut i fyw. Mae Iesu yn pwysleisio nid beth na ddylem ni ei wneud ond beth sy’n rhaid i ni ei wneud, sef caru eraill, hyd yn oed ein gelynion a gwneud daioni i eraill. Heddiw mae llawer o annhegwch yn y byd a llawer o ddioddef. Mae gan rhai gormod ac eraill heb ddigon i fyw. Yng Nghymru mae llawer ohonom yn bwyta gormod ac eraill heb ddigon i fwyta oherwydd tlodi, ac mae felly trwy’r byd i gyd.
Mae cymaint o bobl yn dioddef oherwydd rhyfeloedd fel sydd ar hyn o bryd yn Syria ac yn Iraq ac wedi colli eu cartrefi a’u heiddo i gyd. Maen nhw’n gorfod ffoi o’u gwlad eu hunain ac wynebu peryglon ofnadwy wrth deithio i wledydd eraill i gael bywyd gwell. Rhaid inni wneud popeth sy’n bosibl i helpu pobl sy’n llai ffodus na ni a diolch bob amser am ein holl fendithion.
Diolchwn i Ti, Ein Tad am ein holl fendithion. Diolchwn am ein cartrefi, a’n rhieni, ein teuluoedd a’n ffrindiau, am ein hysgolion a’n hathrawon , ac am ein heglwys yma ym Minny Street, ac am bawb sy’n helpu eraill ymhob man. Gweddïwn dros y rhai drwy’r byd na sydd mor ffodus â ni. Gofynnwn hyn i gyd yn enw ein Harglwydd Iesu Grist a ddaeth i’r byd i ddangos inni sut i fyw. Amen."
Braint i ni fel cynulleidfa oedd derbyn a neilltuo 8 diacon newydd yn ein Hoedfa Hwyrol: Dianne Bartholomew, Ieuan Davies, Zac Davies, Rhiannon Gregory, Helen Huws, Robert Jones, Arwel Thomas a Marged Williams.
Paratowyd gan ein Gweinidog y Wyddor i’r Diaconiaid Newydd. Mae cofnod llawnach o’r homili eisoes ar y wefan, ond dyma i chi flas ar destun ein myfyrdod:
A - Anrhydeddwch eich cyfrifoldeb; arddelwch Arglwyddiaeth Iesu Grist. Amlygwch addewid Abba Dad.
B - Braint yw gwasanaeth.
C - Cariad. Cariad; calon crefydd. Ym mhob peth felly: Cariad: canoli ar Dduw. Cysegrwch eich hunain i’r cariad hwn.
Ch - Chwilio’r Gair, a chymdeithas y Saint, a chynnydd ysbrydol.
D - Darganfod, datgelu dylanwad daioni Duw - dyma sy’n dyrchafu eglwys.
Dd - ‘Ddaw’r haul ddim i dywynnu bob amser. Na ddigalonnwch.
E - Estynnwch am eich gilydd ac am eraill am gymorth, am gyngor, am gadernid. Estynnwch am Dduw.
F - Fydd popeth a wnewch ddim yn dderbyniol gan bawb. Byddwch fyddar ac yn fud ar adegau.
Ff - Ffydd - ffydd yn Nuw, ffydd yn ein gilydd fel eglwys.
G - Gwarchod y Gymdeithas Gristnogol yn ein plith.
Ng - ENghraifft - boed i’ch gwasanaeth fod yn enghraifft o’r hyn oll all y ddiaconiaeth fod.
H - Ym mhob hynt a helynt, byddwch hyderus yn ein hymddiriedaeth ynoch.
I - Iesu. Heb Iesu, ofer y cyfan oll.
L - Lefeiniwch fywyd yr eglwys â daioni, er daioni.
Ll - Llafuriwch yn ddiwyd gyda’ch gilydd, er lles y lliaws.
M - Meddwl. Agorwch eich meddwl i feddwl Duw.
N - Boed nawdd, nodded a nerth i chi, byddwch i’r eglwys hon yn nerth, nodded a nawdd.
O - Offrymwch eich hunain yn aberth byw, sanctaidd a chymeradwy gan Dduw.
P - Parch; pwyll; pardwn parod - presgripsiwn y pwyllgor perffaith.
Ph - Physygwyr; Luc y physygwr annwyl (Col: 4:14). Nid oes ymhlith ein diaconiaid physygwr; perthyn i bob un anwyldeb a all wneud pobl yn barod eu cymorth, yn dirion, yn dda.
R - ‘Rwyf fi’, ‘rwyt ti’, ‘rym ni i rannu’r weinidogaeth hon.
Rh - Yn rhwymau’r cyfrifoldeb, byddwch ymwybodol o wendidau’r eglwys, yn werthfawrogol o’i rhinweddau.
S - Byddwch sanctaidd: adnabod gweithgarwch Duw, a rhannu yn ei waith.
T - Tynnwch eich pwysau.
Th - Thal hi ddim heb fynd i’r afael â phroblemau a’u datrys - dyna’r unig ffordd ymlaen.
U - Un - byddwn yn un mewn pwrpas a bwriad, yn un mewn calon ac ysbryd, yn un mewn ffydd a gobaith.
W - Wyneb yr Arglwydd Dduw a lewyrcho arnoch.
Y - Ystyriwch y pethau hyn, a gwyn eich byd os gwnewch hwynt a chael yr Eglwys hon i wneud hynny hefyd, gyda chi, ac o’ch herwydd.
O’r bregeth fe’m harweiniwyd yn naturiol at Fwrdd y Cymun a’r Neilltuo ... "Yn enw Iesu Grist ein Harglwydd, ac yn unol â phenderfyniad yr Eglwys, derbyniad chwi i waith diacon yn yr Eglwys hon, ac fel arwydd o hyn estynnaf i chwi ddeheulaw cymdeithas." Fe’n hatgoffwyd ninnau fel cynulleidfa "nad pobl i wneud gwaith yr eglwys dros y gweddill ohonom yw diaconiaid. Cofiwn mai gweinidogaeth yr holl saint yw gweinidogaeth effeithiol yr eglwys. ‘Rydym oll fel aelodau o Gorff Crist yn faromedr sy’n dangos tymheredd ysbrydol yr eglwys."
Llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o lwyddiant Eisteddfod yr Urdd, Sir Fflint dros yr wythnos aeth heibio boed wrth gystadlu, beirniadu, llywyddu, stiwardio neu sylwebu!
Llongyfarchwn yn arbennig ein plant a’n pobl ifanc dawnus am eu rhan mewn partïon, corau, a grwpiau llwyddiannus dan nawdd eu hysgolion, adrannau ac aelwydydd a llongyfarchwn yn arbennig y rhai brofodd lwyddiant unigol:
Mari Fflur Thomas (3ydd: Barddoniaeth Bl 2 ac iau)
Elen Morlais Williams (2il: Dawns Werin Unigol i Ferched Bl 9 ac iau)
Mared Browning a Lleucu Parri (3ydd: Deuawd Offerynnol Bl 13 ac iau)
Lleucu Parri (1af; Dawns Werin Unigol i Ferched Bl 10 adan 25 oed)
Elwyn Williams (3ydd; Dawns Werin Unigol i Fechgyn Bl 10 adan 25 oed)
Enlli Parri (1af: Unawd Offerynnol 19-25 oed). Llongyfarchiadau ychwanegol i Lleucu ar gael ei dewis i fynd ymlaen i gystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel ym mis Hydref.
Diolch i Andrew a Dianne am y ‘Gardd Agored’ ddoe (4/6); codwyd £385 er budd ein helusen Pedal Power, Caerdydd. Cofiwch am ein 'Te Ritz'. Canolfan Gymunedol yr Eglwys Newydd, 18/6 eto, er budd Pedal Power.
Diolch am amrywiol fendithion y Sul.