'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
Mae dyddiadur Lolfa yn eu nodi: Alban Hefin ac Alban Arthan. Fe ddigwydd dydd hiraf y flwyddyn ganol Mehefin, a heddiw daeth Alban Arthan - dydd byrraf y flwyddyn.
Profiad cysurlawn yw sylweddoli heddiw bod y rhod bellach wedi troi i gyfeiriad goleuni. Er mai yn nwfn y gaeaf yr ydym, a bod gennym fisoedd digon diflas ac oer o’n blaenau, o hyn ymlaen bydd pethau’n siŵr o newid er gwell, ac ymestyn bydd hanes ein dyddiau mwyach.
Ar droad y rhod fel hyn, dim ond munud neu ddwy gynnil yw’r ymestyniad, ond pan daenir munudau cynyddol felly dros gyfnod o wythnosau a misoedd, bydd y gwahaniaeth yn galondid mawr.
Dyfod teyrnasiad Crist oedd y calondid y cyfeiriai Paul ato yn ei lythyr at y Rhufeiniad: Y mae’r nos ar ddod i ben, a’r dydd ar wawrio (Rhufeiniaid 13:12a BCN). Dylid nodi cyfieithiad William Morgan dim ond am ei hyfrydwch: Y nos a gerddodd ymhell, a’r dydd a nesaodd ...
Gan gofio hyn oll, mynnwn heddiw fymryn o dawelwch, tamaid o lonyddwch i ystyried a chofio.
Ystyriwn y rhydd-gyfieithiad hwn o Weddi’r Goleuni gan Rumi (Jalāl ad-Dīn Muhammad Rūmī; 1207-1273):
O! Dduw,
Dyro i mi olau yn fy nghalon a golau yn fy ymddiddan,
A golau yn fy nghlywed, a golau yn fy ngweld,
A golau yn fy nheimlo, a golau yn fy nghyffyrddiad.
A golau y tu blaen i mi, a golau y tu cefn i mi.
O! Dduw, dyro i mi olau.
Golau ar y llaw dde, a golau i’r aswy,
Golau o danaf, a golau uwch fy mhen.
O! Dduw, boed i’th olau gynyddu ynof.
Dyro dy olau i’m goleuo.
Profi felly llewyrch dy olau
Yw ymwybod â Golau pob golau.
Cofiwn, gyda Duw, rywun sydd yn hawlio lle yn ein gweddïau’r Nadolig hwn. Yn gymorth yn hynny, dyma at eich defnydd weddi fach syml yn seiliedig ar y ddelwedd o Dduw fel goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch:
O! Dduw, dyro dy olau i bob un sydd mewn tristwch, afiechyd, unigrwydd a gofid. Llewyrcha ar eu llwybrau a gad iddynt, yn dy oleuni, gerdded pob cam o’r daith yn ddiogel; trwy Iesu Grist dy Fab. Amen.
(OLlE)