Mae’n hawdd diflannu i blygion torf.
Es i mewn i’w chanol hi, at ei chalon, ac aros.
Hawdd hynny, gan mai aros roedd pawb ohonom.
Aros tu allan i’r Praetoriwm.
Daeth Pilat allan atom a hawlio datganiad ffurfiol o’r cyhuddiad yn erbyn y saer o Nasareth.
Nid oedd neb o’r arweinwyr yn barod gyda chyhuddiad a allai apelio at Pilat; felly osgoi'r cwestiwn a wnaethant.
Ni chafodd ateb, ni chafodd y cyhuddiad, ac mae’n rhaid felly, meddyliais, mae dyma ddiwedd y rhialtwch hwn, a diolch am hynny; ond aeth Pilat yn ôl i’r Praetoriwm.
Rhyfedd.
Maes o law, daeth yn ôl allan atom - buasai Iesu’n rhydd maes o law.
Na, cynigiodd ddewis i ni: Barabbas neu Iesu.
Dechreuodd rywrai weiddi am Barabbas.
Barabbas!
Bûm dawel, gan weiddi dros neb.
Mudandod gwael, ac o’i herwydd daeth i mi gadarnhad o’m hofnau gwaethaf: esgus o ddyn ydwyf wedi’r cyfan.
Wedi iddynt - wedi i nyni ddewis - Barabbas, aethpwyd ag Iesu i’w arteithio; a ninnau’n aros, aros i gael gweld y dyn.
Daeth Pilat a dangos i ni'r hyn oedd yn weddill o’r saer.
Dyma’r dyn, meddai. Ecce Homo.
Dyma’r olwg sydd ar y dyn hwn bellach; nid rhaid i chi mwyach ei ofni na chenfigennu wrtho.
Gan hynny goddefwch chwithau i minnau’n awr ei ollwng yn rhydd.
Ecce Homo?
Ond, nid felly y bu.
Gwaeddasom “Croeshoelia, croeshoelia ef.”
Gwaeddasom felly, gan mae nid gweld y dyn a wnaethom, ond gweld ein hunain.
Gwaeddais am waed y saer gan i mi ei weld, a deall bod hwn wrth ddioddef hyn oll wedi amlygu ein cyflwr.
Nid Ecce Homo, ond Ecce Homines: wele’r ddynoliaeth!
‘Ecce Homo’ gan Antonio Ciseri (1821-1891)