Dymunai’r angylion ein helpu gyda’r Grawys. (Luc 2:8-20)
Braint mawr iawn cael cwmni angylion Duw - cedyrn blant y gogoniant - a chlywed eu hanthem ogoneddus: Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith dynion sydd wrth ei fodd ...
Gwelodd y bugeiliaid goleuni na fu erioed o’r blaen ar dir na môr, a chlywsant soniarus gân y nefol gôr. Ond, y drafferth gydag angylion yw eu bod nhw byth yn aros yn hir!
I’r bugeiliaid, braint fer iawn ei pharhad oedd braint eu cwmni. Ciliodd yr angylion, ac ni fu dywyllwch tebyg i’r tywyllwch hwnnw wedi diflannu'r gogoniant a ddisgleiriodd o’u hamgylch y noson fawr honno, ond sylwch: Wedi i’r angylion fynd ymaith oddi wrthynt …
Mae ymadawiad yr angylion yn cynnig inni’r cyfle i brofi dilysrwydd ein profiadau.
Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.
Y mae gan Dduw ei bwrpas wrth alw’r angylion yn ôl. Danfonwyd hwy i gyhoeddi’r newyddion da o lawenydd mawr, a geilw hwynt yn ôl er mwyn rhoddi i ni’r cyfle i roi prawf ar yr hyn a glywsom.
Mae’r Grawys yn gyfnod i atgoffa’n hunain a’n gilydd mai pethau i’w brofi - nid i’w clywed yn unig - yw addewidion Duw. Nid digon yw clywed am y geni, y weinidogaeth, y groes, y bedd gwag a’r esgyniad - rhaid gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.
Yn ail, mae ymadawiad yr angylion yn cynnig inni’r cyfle i adnabod Un sydd yn well na hwy.
Peth mawr i’r bugeiliaid hyn oedd cael cwmni angylion Duw; ond mae’r bugeiliaid yn gwybod fod cwmni hyd yn oed yn well, hyd yn oed yn uwch na chwmni angylion yn eu haros yn y preseb. Yn eu haros yno oedd y peth mawr; sylwch: Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano. Iesu - yw y peth!
Mae’r Grawys yn gyfnod i atgoffa’n hunain a’n gilydd fod rhaid i’r sêr ddiflannu pan mae’r haul yn codi!
Yn olaf, mae ymadawiad yr angylion yn cynnig inni’r cyfle i adnabod yr Hwn na fydd yn gadael byth.
Dod i fynd mae’r angylion, dod i aros mae’r Mab. Ac wele, yr wyf gyda chwi bob amser, hyd ddiwedd y byd. (Mathew 28:20)
Profiad anoddaf ein bywyd yw gweld popeth o’n cylch yn newid a hynny’n anorfod. Gwelwn fod y byd yn newid, ein hamgylchiadau’n newid, pobl yn newid, anwyliaid yn newid, a ninnau’n hunain yn newid.
Mae’r Grawys yn gyfnod i atgoffa’n hunain a’n gilydd fod cariad Duw yng Nghrist byth yn newid.
Os caf aralleirio emyn Cernyw - heb, obeithio, gwneud cam ag ef nac â’r Efengyl chwaith -
... syfled oesau, cilied angel,
mae Iesu Grist yn para’r un.
Mabel Royds; 1938