Heddiw yw Dydd Gŵyl Iago Apostol. Y cyntaf o blith y deuddeg disgybl i farw’n ferthyr. Nid heb achos arbennig y dewisodd Herod Agrippa roi taw ar Iago a’i ladd â’r cleddyf. Er na wyddom y manylion y mae’n amlwg nad dyn y gellid ei anwybyddu oedd Iago, ac fe gredodd Herod ei fod yn rhoi ergyd lem i’r Eglwys ifanc wrth ladd Iago.
Pysgotwr oedd Iago wrth ei alwedigaeth, ac ‘roedd ef a’i frawd Ioan ymhlith y pedwar cyntaf a alwyd gan Iesu i fod yn bysgotwyr dynion. Heblaw bod yn aelod o’r Deuddeg dethol, ‘roedd hefyd yn aelod o’r cylch cyfrin hwnnw o dri - Pedr, Ioan ac yntau - a freintiwyd i fod yn llygad dystion o gyfodi merch ddeuddeg oed Jairws o farw’n fyw, ac o fod ar fynydd y Gweddnewidiad, yn ogystal â bod yng ngardd Gethsemane. Mae’n sicr i’r profiadau hynny adael argraff annileadwy ar ei feddwl.
Heriwyd y ddau frawd gan eu Meistr Iesu un tro i yfed o’r cwpan ‘roedd ef yn gorfod yfed ohoni; a rhoddasant ateb cadarnhaol pendant: ‘Gallwn’. Dengys merthyrdod Iago nad ymffrost wag oedd honno.
Ymdawelwch, a throwch i ddarllen Mathew 4:18-22 a Marc 10:35-40.
Tydi, Arglwydd, a wnaethost y cyffredin gynt yn anghyffredin, galw eto tystion i waith dy gariad, a nerth hwynt i barhau yn ffyddlon, doed a ddelo, costied a gyst. Amen.
(OLlE)