Gwiw gennym groesawu yn ôl atom y bore heddiw y Parchedig Aled Davies. Mae Aled yn weinidog yn Chwilog ond mae’n siŵr mai ei gysylltiad â Chyngor yr Ysgolion Sul ddaw gyntaf i’r meddwl o glywed enw Aled! Cychwynnodd cysylltiad swyddogol Aled â’r Cyngor yn 1989 pan gafodd ei benodi yn Swyddog Datblygu Gogledd Cymru. Ymhen degawd ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor a thros y ddeng mlynedd ddiwethaf ef yw Cyfarwyddwr y Cyngor. Aled hefyd wnaeth ysgogi sefydlu Cyhoeddiadau’r Gair - cyhoeddwr y mae arnom ni, fel pob eglwys yng Nghymru, gymaint o ddyled iddo am y llu o deitlau safonol a deniadol sydd ar gael ar ein cyfer.
Mae Cyngor yr Ysgolion Sul yn 50 mlwydd oed eleni, ac mewn cyfrol sy’n disgrifio’r hanes ceir y geiriau yma: Mae gweledigaeth, brwdfrydedd ac ynni dihysbydd Aled Davies yn sicr yn rhan allweddol o hyd a lled y gweithgarwch yma (sef yr oll sydd yn digwydd), ac mae gan Gristnogion Cymraeg Cymru, yn blant ac oedolion, ddyled aruthrol i Aled am lwyddiant y gwaith. Wrth groesawu Aled atom heddiw, cawsom fel eglwys gyfle i ddatgan ein gwerthfawrogiad ninnau o’i holl waith gyda Chyngor yr Ysgolion Sul.
 ninnau ym Mlwyddyn y Beibl Byw, aeth Aled â ni ‘nôl mewn amser! 2500 o flynyddoedd yn ôl i deyrnasiad Joseia Frenin. Mae Joseia’n cael ei gyfrif ymhlith y mwyaf o frenhinoedd Israel. Daeth yn frenin yn ifanc - yn 8 oed - a theyrnasodd am 31 o flynyddoedd.
Mae Joseia’n cychwyn ar ddiwygiad crefyddol na fu ei fath yn y genedl. Tynnodd, a gwthiodd ei bobl yn ôl at Dduw. Adferwyd eu perthynas â’r Duw byw.
Wedi’r dymchwel a’r chwalu a fu’n gymaint rhan o deyrnasiad Heseceia: Dyma a wnaeth Heseceia trwy holl Jwda - dryllio’r colofnau, torri’r prennau Asera, a distrywio’r uchelfeydd a’r allorau; gwnaeth yr hyn oedd dda, uniawn a ffyddlon gerbron yr Arglwydd ei Dduw. (2 Cronicl 31: 1 & 20); mae Joseia’n bwrw ati i atgyweirio tŷ’r Arglwydd. (2 Cronicl 34:8) Ynghanol annibendod yr atgyweirio mae Hilceia’r offeiriad yn darganfod llyfr cyfraith yr Arglwydd a roddwyd trwy Moses (2 Cronicl 34:14) - yr hyn a adnabyddwn ni yn awr mae’n debyg fel Deuteronomium.
Wyddom ni ddim pryd, na sut aeth llyfr cyfraith yr Arglwydd ar goll. Efallai yn nyddiau Manasseh. Ofer ein dyfalu. Gwyddom ni ddim ... ond gwyddom sut y darganfuwyd y llyfr - a bod ei ddarganfod wedi cael effaith.
Safodd y brenin wrth ei golofn, a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion … a’i holl galon ac a’i holl enaid, ac i gyflawni’r geiriau’r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn (2 Cronicl 34:32).
Gwelir y Beibl ym mhob man - mewn ysbyty, mewn carchar, mewn gwesty, ysgol, coleg ac o dan y pot geranium yn y parlwr. ‘Does yr un profiad yn hanes pobl, boed gamp neu remp, nad ydi’r llyfr hwn wedi’i gynnwys mewn rhyw adnod neu’i gilydd. Mae gan y llyfr hwn awdurdod trosom. Dyma’r bont sydd yn ein cysylltu â’r Gair sydd y tu hwnt i’n geiriau. Rhaid mentro ar Air Duw. Mawr ein diolch am genadwri Aled y bore hwn.
Un cyson ei chymwynas a ni fel eglwys oedd ein cennad heno: y Parchedig Lona Roberts (Caerdydd). Mae Lona yn aelod yn Eglwys y Crwys. Lona oedd llywydd Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd llynedd ac mae’n parahau’n ffyddlon i gyfarfodydd y Cyngor a chyd-eglwysig. O ganlyniad, mae Lona yn wyneb a llais cyfarwydd i nifer ohonom yma yn Minny Street.
Wedi bod yn gwylio cyfres o raglenni ar Ymerodraeth Rhufain yr oedd Lona, cyfres yr ysgolhaig a’r cyfathrebwr Mary Beard. I ddiwallu anghenion yr Ymerodraeth Rufeinig, ‘roedd rhai pethau angenrheidiol: aethom yng nghwmni Mary Beard i Sevilla, lle cynhyrchid olew olewydd ar raddfa fawr, ac i fynydd-dir de Sbaen lle’r oedd miloedd yn cloddio metal ar gyfer yr arian, y denarii. Aethpwyd hefyd i ddinas Effesus, porthladd prysur, lle trigai 250,000 o bobl, a’r rheiny’n siarad ieithoedd dirifedi. Yn Effesus, ‘roedd cyfoeth aruthrol fawr a hwnnw wedi’i seilio ar y fasnach mewn pobl. Cawsom sefyll gyda Mary Beard yn y farchnad lle byddech yn mynd i brynu rhywun a fyddai’n athro i’ch plentyn neu’n feddyg personol, neu’n un i drin eich gwallt. At rywrai yn y ddinas honno yr anfonodd yr Apostol Paul ei lythyr. Anogaeth sydd ynddo i fyw’r Efengyl, am fod y dyddiau’n ddrwg. Drosodd a thro, mae’n eu hatgoffa i osod cariad a maddeuant Duw yn Iesu yn sylfaen eu byw a gwreiddyn eu bod. Cawsant eu creu i fywyd o weithredoedd da ac nid estroniaid a dieithriaid ydych mwyach, ond aelodau o deulu Duw (Effesiaid 2:19). Â ninnau heddiw, mynnai Lona, dan ormes hiwmanistiaeth falch ac ymwthgar, peth newydd a ffres yw pwyslais Paul ar berson Iesu a’i groes. Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn, yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad (Effesiaid 4:2) - yn ninas Effesus! Mae T Eirug Davies (1892-1951; CFf:782) yn gosod y dasg ger ein bron:
Fy ngweddi fo, am gael
yr Iesu’n arglwydd im,
ac ef yn bopeth mwy
a mi fy hun yn ddim,
yn ddim ond llusern frau
i ddal ei olau ef …
Diolch am fendith y Sul.