'BETHANIA' - POBL YR HEN DESTAMENT (2)

SETH

Genesis 4:17-26 a Luc 3:37

Gannwyd meibion i Adda ac Efa. Gwyddom am ddau ohonynt: CAIN ac ABEL, ond beth am y trydydd SETH? Cafodd Adda gyfathrach â’i wraig eto, ac esgorodd ar fab, a’i alw’n Seth…I Seth hefyd fe anwyd Mab, a galwodd ef yn Enos. Yn yr amser hwnnw y dechreuwyd galw ar enw’r ARGLWYDD. (Genesis 4:25-26)

Wedi’r helynt a fu rhwng ac oherwydd Cain ac Abel, cawn yn, a chan Seth ddechreuad newydd: Yn yr amser hwnnw y dechreuwyd galw ar enw’r ARGLWYDD. Adfywiodd crefydd yn y teulu - a hynny er gwaethaf creithiau’r gynnen a lladd. Dyna’r esboniad pam y ceir sôn am Seth yn y Testament Newydd (Luc 3:37). Gan ddechrau gyda Joseff, awn yn ôl fesul gam i Jacob, Isaac ac Abraham, nol eto a gorffen gyda’r geiriau Fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.

‘Abraham a Sara’ (1956) gan Marc Chagall (1887-1985) 

ABRAM a SARAI

Genesis 17: 1-5; 15-18 a Genesis 18: 10-13

Mae Duw yn hoff o newid enwau pobl! Fe gofiwch y stori am Sarai - yn ddeg a phedwar ugain mlwydd oed - ac Abram, bron yn ganmlwydd oed. Ystyriwch ystyr yr enwau: Abram - enw’n golygu Hen Dad. Rhyw fath o deitl anrhydeddus a ddaeth yn naturiol yn sgil ei flynyddoedd a’i gyfoeth. Ond, ’roedd tinc creulon yn yr enw - tad mewn enw yn unig oedd Abram. Ni fu plant erioed ar aelwyd Abram a Sarai. A Sarai - enw’n golygu Gwawd. Yng nghyfnod Abram a Sarai ’roedd gwraig nad oedd wedi cenhedlu plant yn destun gwawd a dirmyg. ’Roedd gan Dduw freuddwyd fawr! Abram yn dad a Sarai yn fam i genedl gyfan, i lu o genhedloedd. Wedi clywed am freuddwyd Duw fe chwarddodd Abram a Sarai! Bywyd newydd o hen gnawd? Amhosibl! I ddangos iddynt nad oedd dim yn amhosibl iddo, newidiodd Duw enwau’r ddau. Abram yn cael ei ailenwi - Abraham. Chwarae gyda sŵn y gair, a newid ystyr, o Hen Dad i Tad i Nifer. Ailenwi Sarai - Sara, o Gwawd i Tywysoges.

Pwy ond Duw fyddai’n dewis, i fod yn dad i genedl, hen ŵr canmlwydd oed? Pwy ond Duw fyddai’n dweud wrth hen wraig y byddai cyn hir yn beichiogi? Pwy ond Duw fyddai’n galw hen wraig, a’i phen yn isel ar ôl blynyddoedd o wawd a gwatwar, yn Dywysoges? Dim ond ein Duw ni! Dim ond ein Duw ni sydd yn mynnu ailenwi pobl, gan ddileu’r enw neu’r hunaniaeth sydd yn tanlinellu eu gofid a’u tristwch, a rhoi enw a hunaniaeth newydd iddynt sydd yn pwysleisio eu rhinweddau a’u potensial.

  • Beth yw’r rheswm fod rhai pobl yn ymddiddori’n fawr yn eu hachau? (Llinach Iesu 3:23-37)
  • Pan oedd Abram yn naw deg a naw oed ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo... (Genesis 17:1). A fyddai’n beth da inni gael byw yn hwy - am ddwy ganrif, dyweder?
  • Ai rhoi ail-gynnig i berson ydy ystyr maddeuant?