Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (8/10 am 9:30 yn y Festri). Bydd cyfle i gwrdd â Martin a Katherine ac i ddymuno pen-blwydd hapus i Desmond. Addewir hefyd tamaid o ‘pop’ a mymryn o ‘fizz’!
Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
William Watson (1858-1935) a Fransis o Assisi (m.1226); John Ruskin (1819-1900), Emil Ludwig (1881-1948) a Charles H. Spurgeon (1834-1892); Ann Sulivan (1866-1936) a Desmond Tutu (g.1931) - fe ddônt, bob un, i’r Oedfa Foreol (10:30) i greu ohonom eglwys yn gweithio a chyd-weithio i sicrhau nad ‘undelivered tidings’ mo newyddion Da Cariad Duw yng Nghrist.
Liw nos, byddwn yn ymuno yng Ngŵyl Bregethu Eglwys Ebeneser (yn Eglwys Canol y Ddinas, Windsor Place): pregethir gan y Parchedig Ddr Noel Davies (Abertawe). Sylwer ar yr amser: 17:30. Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street.
Nos Lun (9/10; 19:00-20:30) PIMS: Bydd y chwys yn tasgu nos Lun!
Nos Fawrth (10/10; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’ gan ddechrau gydag Efa, Cain ac Abel. Parhawn gyda Seth, Abram a Sarai. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (11/10): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Nos Iau (12/10; 19:00-20:30) Cwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyrain Morgannwg (yng Nghapel Carmel-Bethania, Maesteg): anerchiad gan Mrs Elenid Jones (Caerdydd): "Cri o Fadagasgar" (Pwyllgor Gwaith am 18:00)
Bore Gwener (13/10; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Samuel Wells: How then shall we live (Canterbury, 2016). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Migration (t.11-17).
Bore Sadwrn (14/10; 10:30 -12:00) Cymdeithas y Beibl: Bore coffi gydag amrywiol stondinau yn Eglwys y Crwys, Heol Richmond.