Salm 34:6-10
Profwch, a gwelwch mor dda yw'r ARGLWYDD: gwyn ei fyd y gŵr a ymddiriedo ynddo (Salm 34:8 WM). Nid moesol dda a olygir, ond mor rasol, mor garedig yw'r ARGLWYDD. Yr unig ffordd y medrwn wybod hynny ydyw trwy brofiad personol.
Y tlawd hwn a lefodd, a'r ARGLWYDD a'i clybu, ac a’i gwaredodd o’i holl drallodau (Salm 34:6 WM). Tystio a wna’r Salmydd i'r hyn a wnaeth yr ARGLWYDD iddo a throsto. Ni edrychodd yr ARGLWYDD ar na safle na chyfoeth y gweddïwr. Tlawd ydoedd. Efallai mai hyn a barodd iddo droi at yr ARGLWYDD.
Y mae'r Salmydd yn sicr na fydd eisiau ar y rhai a ofnant Dduw. Yr unig amod i fwynhau bendithion yr ARGLWYDD yw ein bod yn ymwybodol o'n hangen, ac yn barod i dderbyn ganddo.
Mawrygwn Di, ein Harglwydd Dduw, am fod y breichiau tragwyddol oddi tanom. Amen.
(OLlE)