Bu hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus, i drethu’r holl fyd (Luc 2:1 WM).
Nid da hyn …
Y lle hwn - trafferth yn ffrwtian fel cawl mewn crochan.
Bygythiad cyson - yr edrychiad caled; y cwrteisi miniog.
Na, nid da hyn …
Y lle hwn - twll o le.
Gwell gennyf y gogledd - ymgyrch gall; ymdrech o ddifri: defnydd da o’n doniau.
Cynllun parod.
Nod pendant.
Gorchmynion eglur: ennill tir; lladd neu gael dy ladd.
I hynny y tyngais lw i Cesar Awgwstus.
I hynny … nid i hyn: plismona’r cofrestru.
Gellid disgwyl trafferth yn y lle hwn bob amser, ond ag Iddewon yma ymhob man, o bob man, bydd rhaid cadw golwg am drafferth annisgwyl.
(OLlE)