Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (12/11 am 9:30 yn y Festri). Bydd ein Gweinidog yn esbonio’r cysylltiad rhwng Martin Luther, hen drên, cadair siglo a phatrwm lliwgar a rhyfedd!
Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Martin Luther (1483-1546); William Williams, Pantycelyn (1717- 1791), Vincent van Gogh (1853-1890); Paul Tillich (1886-1965) a’r Rag’n’bone Man (Rory Charles Graham; gan. 1985) - fe ddônt, bob un, i’r Oedfa Foreol (10:30) i’n harwain at ddealltwriaeth ddyfnach a phrofiad ehangach o ryfeddol ras ein Duw. (Salm 46; Hebreaid 12:1-2; Rhufeiniad 5:1-5)
Liw nos (18:00) y trydydd o bum pregeth am Martin Luther a’r Diwygiad Protestannaidd. Trafodir y gwahaniaeth rhwng ‘Diwygiad’ a ‘Reformation’ a phwysigrwydd yr hyn sy’n digwydd tua phob 500 mlynedd. (Salm 98; Effesiaid 4:1-6 a Luc 5:33-39)
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.
Nos Fawrth (14/11; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Eseia fydd testun ein sylw y tro hwn. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Babimini bore Gwener (17/11; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.