ESEIA
Safodd Eseia ar ei draed, a chododd ei lais yn broffwyd yn yr un flwyddyn y bu farw'r brenin Usseia (Pennod 6; Galwad Eseia): 733CC. Myn yr ysgolheigion mai Lefiad ydoedd yn gwasanaethu yn y Deml, ac a’r sail y ffaith ei fod y perthyn i gylch dethol y llys brenhinol, mai bonheddwr ydoedd. Heb amheuaeth Eseia yw’r gwleidydd craffaf o’r proffwydi.
Ganed dau o feibion i Eseia, a Duw ddewisodd enw i’r naill a’r llall. Enw’r cyntaf anedig oedd Sear-jasub (7:3); enw’n golygu: ‘Bydd gweddill yn dychwelyd’. Dyma enw llawn gobaith; enw a oedd i Ahas Frenin, ŵyr Usseia, yn warant o fuddugoliaeth. Buasai Resin, brenin Syria, a Pheca, brenin Teyrnas y Gogledd: Israel, a’u byddinoedd ynghyd, yn ymosod ar Jwda, Teyrnas y De. Heb amheuaeth buasai’r colledion yn drwm, a naturiol felly, oedd bod calon Ahas a’i bobl wedi cynhyrfu fel prennau coedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt (7:2)! Ond, a dyma’r sicrwydd buasai Jwdea’n goroesi’r llanast a’r lladd: ‘Bydd gweddill yn dychwelyd’, a hynny oherwydd bod Duw o’i phlaid, yn sefyll gyda hwy: dyma gyd-destun gwreiddiol yr adnodau cyfarwydd: Am hynny, y mae’r ARGLWYDD ei hun yn rhoi arwydd i chwi: Wele ferch ifanc yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe’i geilw’n Immanuel (7:14). Y neges hon yw calon y broffwydoliaeth gyfan.
Ond, dewis ymddiried yn ei grebwyll gwleidyddol ei hun a wnaeth Ahas - gwrthod dyfroedd Siloa, sy’n llifo'n dawel, a chrynu gan ofn o flaen Resin a Pheca: Syria ac Israel (8:6). Fel arwydd i’r bobl, dewisodd Duw'r enw Maher-shalal-has-bas (8:1-4) i ail fab Eseia, hynny yw: ‘Brysia’r ysbail, prysura’r ysglyfaeth’. Ymhlyg yn enw’r ail fab ‘roedd neges galed am ganlyniadau a goblygiadau penderfyniad Ahas a’i gynghorwyr yn Jwda i blygu glin i Syria ac Israel. ‘Roedd gwaeth felly i ddod: brenin Asyria a’i holl ogoniant. Fe lifa trwy Jwda fel dilyw (8:7). Buasai llif Asyria maes o law yn llyncu Resin a Pheca hefyd. ‘Roedd dyddiau tywyll du yn dod, a’r dyddiad tywyll rhain, â Asyria wedi tramwy trwy’r wlad mewn caledi a newyn (8:21) yw cyd-destun gwreiddiol yr adnodau cyfarwydd, cysurlawn: Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr..(9:2).
Yn ogystal â rhybuddio’r brenhinoedd Jwda: Usseia, Jotham, Ahas ac Heseceia (1:1) o ganlyniadau a goblygiadau eu penderfyniadau gwleidyddol, mae Eseia’n gyson herio’i bobl i fyw’n deilwng o’r safonau moesol a osodwyd yn nod iddynt gan Dduw. Camgymeriad dybryd, meddai Eseia, yw codi gobeithion cenedl ar sylfaen cyfaddawd gwleidyddol; gwraidd a chraidd gobaith yw Duw, ac un peth - dim ond un peth - sydd yn bwysig i Dduw: cyfiawnder.
Athrylith Eseia Broffwyd yw cadw cerydd (1:1-39:8) a chysur (40:1-66:24) mewn perffaith gynghanedd. Heb bylu dim a’r fin ei genhadaeth, heb faldodi dim o’i bobl, na’i mwytho, myn Eseia eu cysuro â gweledigaeth o ddyfodol gwell; dyfodol o gymod yn Nuw: Cysurwch, cysurwch fy mhobl...Fe drig y blaidd gyda’r oen, fe orwedd y llewpard gyda’r myn, bydd y llo a’r llew yn cyd-bori, a bachgen bychan yn eu harwain (40:1 a 11:6).
Hyn a ddaw, meddai Eseia, hyn oll a ddaw yfory, os ydym, heddiw, yn barod i dalu’r pris amdano, a hynny’n llawn. Erys yr angen am gysur a cherydd Eseia.
PENODAU ac ADNOD ALLWEDDOL
Pennod 6, 40 a 53
Chwi, holl gyrrau’r ddaear, edrychwch ataf i’ch gwaredu, canys myfi wyf Dduw, ac nid oes arall (45:22).
Pwyntiau trafod:
1. Mae gofyn cwestiynau mawr yn bwysicach na bod mewn ffordd i ateb rhai bach.
2. Glynu wrth yr hen yw temtasiwn barod crefyddwyr o hyd.
3. Gwell gennym ddarllen am broffwydi na chael un yn ein plith.